Lansio ymchwiliad i ymyrraeth ariannol tramor yng ngwleidyddiaeth y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio adolygiad annibynnol i ymyrraeth ariannol tramor yng ngwleidyddiaeth y DU wedi i gyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru Nathan Gill gael ei garcharu am dderbyn llwgrwobrwyon gan Rwsia.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Steve Reed fod ymddygiad Nathan Gill, a gafodd ei garcharu am 10 mlynedd a hanner, yn "staen" ar ddemocratiaeth Prydain.
Cafodd Gill, sy'n 52 oed, ei eni yn Lloegr, ond symudodd ei deulu i Ynys Môn pan oedd yn blentyn. Aeth i Ysgol Gynradd Llannerch-y-medd ar yr ynys.
Roedd wedi bod yn ymwneud ag UKIP ers 2004 ac wedi gwasanaethu fel aelod o Senedd Ewrop yn enw'r blaid ac yn ddiweddarach i Blaid Brexit, o 2014 i 2020.
Roedd yn arweinydd Ukip Cymru rhwng 2014 a 2016, a gwasanaethodd hefyd fel aelod o Gynulliad Cymru am 18 mis rhwng 2016 a 2017.
Dywedodd Mr Reed wrth ASau y byddai'r adolygiad yn cael ei gadeirio gan Phillip Rycrof, a weithiodd yn Swyddfa'r Cabinet a'r Adran Ymadael â'r UE o dan lywodraethau Ceidwadol.
"Yn dilyn trafodaethau gyda chydweithwyr gweinidogol, rwyf heddiw wedi gorchymyn adolygiad annibynnol i ymyrraeth ariannol tramor yng ngwleidyddiaeth y DU," meddai.
"Mae'r ffeithiau yn glir. Fe wnaeth gwleidydd Prydeinig dderbyn llwgrwobrwyon i hyrwyddo buddiannau Rwsia, cyfundrefn a wnaeth alltudio plant bregus o Wcráin a llofruddio dinesydd o Brydain ar dir Prydeinig, gan ddefnyddio gwenwyn angheuol.
"Mae'r ymddygiad yma yn staen ar ein democratiaeth. Fe fydd yr adolygiad annibynnol yma yn ceisio cael gwared o'r staen hwn."