Rhybuddion melyn am law a niwl mewn mannau
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am law trwm a niwl mewn rhannau o Gymru ddydd Mercher.
Fe fydd y rhybudd melyn am law mewn grym yng nghanolbarth a de Cymru o 10:00 ddydd Mercher tan 23:59.
Mae tebygolrwydd y gallai gwasanaethau bws a thrên gael eu heffeithio, gyda llifogydd posib ar y ffyrdd yn gwneud oedi yn debygol hefyd.
Fe all rhai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd hefyd yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Fe allai rhwng 40-60mm o law ddisgyn ar fryniau yn y de hefyd.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Caerdydd
- Sir Fynwy
- Sir Benfro
- Abertawe
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Sir Gâr
- Castell-nedd Port Talbot
- Powys
- Torfaen
- Caerffili
- Merthyr Tudful
- Casnewydd
- Rhondda Cynon Taf
- Bro Morgannwg
Mae rhybudd melyn am niwl hefyd mewn grym o 00:00 tan 10:00 fore Mercher.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd fod oedi i wasanaethau bws a thrên yn bosib, a phosibilrwydd hefyd y gallai rhai hediadau gael eu gohirio neu eu canslo.
Fe fydd y rhybudd yma yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Sir y Fflint
- Wrecsam