Cymru Premier JD: Met Caerdydd yn wynebu Llansawel

Sgorio
Met Caerdydd

Yn dilyn y siom o golli’n erbyn Caernarfon ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru dros y penwythnos bydd Met Caerdydd yn troi eu sylw yn ôl at geisio sicrhau eu lle’n y Chwech Uchaf yn Uwch Gynghrair Cymru.

Gyda phedair gêm i’w chwarae tan yr hollt, Met Caerdydd sy’n eistedd yn y 6ed safle hollbwysig, a byddai buddugoliaeth yn erbyn Llansawel nos Fawrth yn eu codi uwchben Bae Colwyn i’r 5ed safle.

31 o bwyntiau yw’r swm arferol sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac felly byddai dwy fuddugoliath o’u pedair gêm olaf yn ddigon i Met Caerdydd gyrraedd y targed hwnnw.

Gemau tan yr hollt:

Met Caerdydd: LLS (c), BARR (oc), HWL (c), PEN (oc) ͏

Llansawel: MET (oc), CEI (oc), PEN (oc), BARR (c), HWL (oc) ͏

Mae Llansawel yn hafal ar bwyntiau gyda’r Fflint (11eg), ond pe bae’r Cochion yn ennill eu gêm wrth gefn yna byddai tîm Andy Dyer yn dringo i’r 8fed safle.

Mae Llansawel wedi ennill un gêm yn unig o’u hwyth gêm ddiwethaf (cyfartal 1, colli 6), ac mae gemau caled ar y gweill i’r Cochion cyn yr hollt.

Mae sgorio goliau wedi bod yn broblem i Lansawel ers dechrau mis Hydref gan iddyn nhw rwydo dim ond chwe gôl yn eu 10 gêm ddiwethaf.

1-1 oedd y sgôr yn y gêm gyfatebol ar yr Hen Heol ym mis Awst gyda Ruben Davies yn rhwydo i Lansawel cyn i Jasper Payne unioni i’r myfyrwyr yn erbyn ei gyn-glwb.

Record gynghrair ddiweddar:

Met Caerdydd: ͏✅❌✅➖✅

Llansawel: ͏❌❌✅➖❌

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.