Enwi stryd ar Ynys Môn er cof am aelod ‘ymroddgar’ o griw bad achub
Mae stryd ar Ynys Môn wedi’i henwi er cof am aelod “ymroddgar” o Fad Achub Moelfre.
Fe fuodd Alan Owen farw yn yr ysbyty ym mis Awst 2023 wedi iddo fynd yn sâl yn annisgwyl yn ei gartref.
Gwasanaethodd Alan gyda Bad Achub Moelfre am 34 mlynedd mewn sawl rôl.
Mae’r stryd sy’n arwain at Fad Achub Moelfre wedi’i henwi yn “Lôn Cocsyn Alan Owen”.
“Rydym yn falch o gyhoeddi bod y ffordd sy'n arwain at dŷ gychod Moelfre bellach yn dwyn enw ein cocsyn a'n ffrind, Alan Owen,” medden nhw.
“Rydyn ni’n parhau i weld ei eisiau yn fawr. Syniad criw'r bad achub oedd enwi'r ffordd ac fe’i trefnwyd ganddynt ar y cyd â Chyngor Cymuned Moelfre a Chyngor Sir Ynys Môn.
“Mae gan bentref Moelfre draddodiad parhaus o anrhydeddu'r rhai yn ein plith sydd wedi rhoi gwasanaeth hir ac ymroddedig i'r gymuned leol.
“Yn drist iawn, bu farw Alan yn sydyn yn 2023 ac mae'r gymuned gyfan, gan gynnwys ei deulu, ffrindiau a chydweithwyr, yn ei gofio'n annwyl.”
Wrth roi teyrnged iddo ar ôl ei farwolaeth yn 2023 dywedodd Bad Achub Moelfre: “Fel criw a chymuned, rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at bartner Alan, Mags, ei fam, Helen, Magic, ei gi, a'i deulu a'i ffrindiau estynedig.
“Alan, Al… Tymoel… Ein capten, ein harweinydd, ein ffrind, byddwn yn dy golli am byth. Rydym ni i gyd yn diolch i ti ac yn dymuno dim byd heblaw gwyntoedd teg a moroedd tawel.”