‘Y penderfyniad iawn’: Brett Johns yn ymddeol o MMA
Mae'r ymladdwr Brett Johns wedi datgelu ei fod yn ymddeol o’r gamp MMA.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl iddo golli ei ornest olaf nos Sadwrn, yn erbyn Nikolay “Slick Nick” Grozdev o Moldova, am deitl Pwysau Plu'r Byd Way of the Warrior (WOW) ym Madrid.
Fe wnaeth y dyfarnwyr ddod â’r ornest i ben yn yr ail rownd wedi i Grodzev ddyrnu Johns sawl tro ar y cynfas.
Yn dilyn yr ornest, mae S4C wedi rhyddhau cyfweliad ecsgliwsif gyda’r ymladdwr o Bontarddulais.
Mae'r cyfweliad, sydd nawr ar gael ar lwyfannau digidol S4C, yn rhoi golwg onest i gefnogwyr am ei ymddeoliad a’i yrfa sy'n ymestyn dros ddegawd, wrth i Johns, a'i wraig Carys, baratoi i groesawu ail blentyn.
Dywedodd Johns: “Mae ymladd wedi bod yn rhan o identity fi am dros 13 mlynedd.
“Pob dydd dwi’n ymarfer unwaith, ddwywaith y dydd. Dwi ‘di gweld y straen ar teulu fi, gweld fy ngwraig yn gweithio gyda’r plant bach, a’r rhan fwyaf o’r amser dwi mas o’r tŷ yn gweithio ac yn ymarfer.
“Dwi jyst ishe pawb i wbod, o’dd e ddim yn benderfyniad hawdd i orffen, ond o’dd e’r penderfyniad iawn.”
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/2000098431818465414?s=20
Ychwanegodd: “Mae ymladd wedi rhoi gymaint i fi dros y blynyddoedd a fi’n ddiolchgar ofnadwy i’r gamp.
“Ond ma’ rhaid siarad amdano gwraig fi, sydd wedi bod fynna bob step o’r ffordd.
“Ma’r sacrifice ma’ Carys wedi ‘neud, eistedd fynna, gweld fi’n mynd trwyddo be’ o’n i’n mynd trwyddo. Nawr fi’n gallu gweld o’dd e ddim yn hawdd i hi wylio popeth.
“Ond nawr yw'r amser i wario mwy o amser gyda Carys, gyda Beti, gyda Giuseppe y ci. A dwi jyst ishe dweud diolch am yr atgofion. Gweld chi yn y dyfodol.”
Roedd yr ornest nos Sadwrn wedi denu sylw sylweddol, gyda Johns yn ceisio ennill trydydd teitl byd ar ôl ennill pencampwriaethau blaenorol Cage Warriors a Titan FC.
Daeth ei wrthwynebydd, Grozdev, i’r ornest gyda record broffesiynol gref a rhediad o fuddugoliaethau.
Ond mae Johns yn ymladdwr pwysau bantam profiadol ac wedi cystadlu i sefydliadau mawr yr MMA gan gynnwys yr UFC, Bellator a'r PFL.