'Hynod unigryw': Coroni tŷ Gradd II yng Nghonwy yn 'dŷ mwyaf poblogaidd y DU' eleni

Ty ar Stryd y Castell yng Nghonwy

Mae tŷ rhestredig Gradd II yng Nghonwy wedi cael ei goroni'n dŷ mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig yn 2025.

Fe wnaeth y tŷ ar Stryd y Castell yn y dref gyrraedd y penawdau ym mis Ionawr ar ôl i bobl sylwi ar nodwedd unigryw yn yr ystafell ymolchi.

Yn hytrach na chael bath arferol roedd y perchennog wedi penderfynu rhoi bath siâp esgid gyda sawdl uchel yno.

Roedd y bath, sy'n cynnwys teils pinc a phiws yn ogystal â phatrwm rhuban, wedi cael llawer o sylw ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Rightmove dyma'r tŷ a gafodd y nifer uchaf o ymwelwyr ar eu gwefan eleni, gyda phlasty yn Llundain yn yr ail safle.

Ond er gwaethaf ei boblogrwydd, mae'r eiddo £875,000 yng Nghonwy yn dal i fod ar werth bron i flwyddyn yn ddiweddarach.

Dywedodd Dafydd Hardy, yr asiant tai sy'n gwerthu'r eiddo, fod y tŷ unllawr yn "hynod unigryw gyda mymryn o hud".

Mae'r asiant yn dweud bod adeilad gwreiddiol y tŷ pedair ystafell yn ddyddio'n ôl i aeaf 1441-42, gan gadw ei ffurf wreiddiol o'r 16eg ganrif.

Ond cafodd yr adeilad ei addasu yn y 18fed ganrif ac yna eto rhwng 2008 a 2015.

"Mae'r adnewyddiad yn dangos blas hynod unigryw a gweledigaethol mewn rhai mannau, yn afradlon mewn rhai agweddau, ond eto mae wedi'i wneud yn fwriadol i greu cartref nad yw'n brin o steil, hudolusrwydd a phresenoldeb," meddai'r asiant yn yr hysbyseb.

"Mae'r sylw i fanylion a'i gyflwyniad cyffredinol yn eithaf nodedig. 

"Lle bynnag yr edrychwch, mae 'na rywbeth i ddenu eich diddordeb."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.