Brett Johns 'ddim yn siŵr' am y dyfodol wrth iddo ymladd am deitl pencampwr y byd
Brett Johns 'ddim yn siŵr' am y dyfodol wrth iddo ymladd am deitl pencampwr y byd
Mae Brett Johns yn dweud nad yw'n "siŵr" am ei ddyfodol wrth iddo anelu i fod yn bencampwr y byd am y trydydd tro.
Fe fydd yr ymladdwr cawell 33 oed o Bontarddulais yn wynebu Nikolay Grozdev ar gyfer teitl pwysau pluen y Way of Warrior ym Madrid nos Sadwrn.
Mae Johns wedi ennill teitlau mewn categorïau pwysau gwahanol yng nghystadlaethau Cage Warriors a Titan FC, yn ogystal â chystadlu yn yr UFC a PFL.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C dywedodd Johns nad oedd yn sicr beth fydd nesaf wedi iddo ymladd nos Sadwrn.
"Fi ddim yn siŵr beth sydd nesaf, fi ddim yn siŵr," meddai.
"Na gyd fi'n gwybod yw bod fi'n ymladd mis Rhagfyr am y gwregys, fi ishe neud hwnna a bydd ni'n gweld beth sy'n digwydd nesaf.
"Fi 'di bod yn ymladd nawr am 29 mlynedd, fi 'di bod yn ymladd ers pedwar blwydd oed, mynd i'r clwb judo yn Pontarddulais a nawr fi yma yn 33 oed.
"A fel fi'n dweud, fi mor ddiolchgar i pawb sydd wedi helpu fi, pawb sydd wedi cefnogi fi dros y blynyddoedd.
Ychwanegodd: "Fi 'di ennill dau gwregys y byd, fi ishe trydydd un a wedyn ma' rhaid fi canolbwyntio ar rywbeth arall a ma' hwnna yn bod falle pencampwr y byd a bod yn dad."
Ymddeol?
Fe wnaeth Brett Johns ennill yn ei ornest ddiwethaf yn erbyn Levan Kirtadze ym mis Awst, y tro cyntaf iddo ymladd ers 14 mis.
Cyn hynny fe gollodd ddwy gystadleuaeth yn olynol, ac roedd wedi meddwl am ymddeol o'r gamp.
Nid dyna oedd y tro cyntaf iddo ystyried gadael y gawell.
Ym mis Rhagfyr 2023 dywedodd Johns wrth Newyddion S4C ei fod bron wedi ymddeol o'r gamp wedi i'w wraig Carys golli baban yn y groth.
Disgrifiodd y cyfnod fel un "emosiynol ac yn gorfforol" i'w wraig a'i fod ef ei hun wedi ystyried rhoi gorau i'w yrfa.
"O'dd e’n gyfnod drist i fod yn onest, o'dd e yn. Ar y pryd o'n i biti wythnos cyn ffeit ond o'n i'n gwybod o'dd e'n bwysig i aros gatre gyda'r gwraig," meddai ym mis Rhagfyr 2023.
"Jyst bod fyna i'n gilydd ti'n gwybod. Fel fi'n dweud o'dd e'n cyfnod galed i fi a'r gwraig ond o'dd e'n bwysig i fi a hi bod gyda'n gilydd ar y pryd.
"O'dd fi'n mynd trwyddo fe yn emosiynol ond fi'n credu o'dd e'n fwy galed i gwraig fi achos o'dd hi'n mynd trwyddo fe yn emosiynol ond hefyd yn corfforol hefyd."
Ers hynny mae Carys wedi geni baban, Beti ac mae hi'n disgwyl baban arall ym mis Chwefror 2026.
Fe fydd Johns yn ymladd am 20:30 nos Wener i ennill ei drydydd teitl pencampwr y byd.
