Sir Conwy: Gwrthod cais i godi 277 o dai oherwydd 'straen' ar ffyrdd ac ysgolion
Mae cynllun i godi 277 o dai mewn tref yn Sir Conwy wedi cael ei wrthod oherwydd pryderon dros straen ychwanegol ar ysgolion a ffyrdd lleol.
Fe aeth cynghorwyr ar bwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy yn groes i argymhelliad swyddogion drwy wrthod rhoi caniatâd cynllunio i’r datblygiad ger Ffordd San Siôr yn Abergele.
Byddai’r cynllun, a gyflwynwyd gan Mr A Clarke, wedi arwain at ddymchwel adeiladau fferm a chodi amryw o dai sengl, tai pâr a thai teras, gan gynnwys 131 o dai rhent cymdeithasol.
Fe gafodd y cynllun ei wrthod gan y pwyllgor ar 12 Tachwedd, ond gan fod y penderfyniad yn mynd i groes i argymhellion swyddogion, roedd yn rhaid i aelodau gadarnhau eu penderfyniad mewn ail gyfarfod ddydd Iau ym mhencadlys y cyngor ym Mae Colwyn.
Wedi i ymgais i dderbyn y cais gael ei wrthod, fe wnaeth y Cynghorydd Andrew Wood o Abergele gyflwyno cynnig i wrthod y cais.
Dywedodd y Cynghorydd Wood, a’r Cynghorydd Alan Hunter, y byddai’r datblygiad yn rhoi straen ychwanegol ar ffyrdd lleol ac ysgolion.
Dywedwyd mai diffyg “ffordd gyswllt” newydd rhwng Ffordd San Siôr a’r A55 oedd un o’r prif resymau dros wrthod.
Dywedodd y Cynghorydd Wood: “Mae gennym sefyllfa lle mae 277 o dai yn mynd i achosi problem fawr i Abergele, lle na fydd y traffig yn gallu symud ac y bydd yn rhaid iddo ddod allan i’r gorllewin.
“Mae wedi'i gynllunio fel bod y traffig yn dod allan ar y cylchfan ar y ffordd osgoi A55, ond nid yw hynny wedi’i weithredu.”
Dywedodd pennaeth cynllunio’r cyngor, Paula Jones, wrth y Cynghorydd Wood fod yn rhaid iddo fod yn barod i esbonio ei resymau dros wrthod pe bai’r mater yn mynd i apêl, gan nad oedd tîm priffyrdd Conwy ei hun wedi gwrthwynebu’r cais.
Gofynnwyd wedyn i’r Cynghorydd Wood nodi rhesymau eraill, a dywedodd na fyddai ysgolion cynradd lleol yn gallu ymdopi â chynnydd mewn niferoedd o ddisgyblion.
Dywedodd y Cynghorydd Smith: “Mae’r dref ei hun, fel y gwyddoch chi gadeirydd, yn orlawn. Bob tro dw i'n mynd i Abergele, dwi'n mynd yn sownd mewn traffig, ac nid yw hyn yn mynd i helpu neb. Dim ond gwaethygu’r sefyllfa y bydd.”
Pe bai’r cyngor yn colli ar apêl, byddai’n rhaid iddyn nhw “dderbyn hynny”, yn ôl y Cynghorydd Smith.
Ychwanegodd: “Mae trigolion Abergele wedi siarad yn glir iawn ar hyn. Nid ydyn nhw eisiau’r datblygiad yma heb y ffordd gyswllt.”
Cafodd y bleidlais i wrthod y cais ei derbyn gyda chwe phleidlais i bedair, gydag un yn ymatal.
