Tag dilyn aderyn prin 'wedi’i dorri’n fwriadol' yng ngogledd Cymru
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i dag dilyn aderyn prin gael ei dorri oddi ar yr aderyn yn fwriadol yng ngogledd Cymru.
Diflannodd y boda tinwyn ifanc ar Fynydd Rhiwabon, ger Wrecsam, ddiwedd mis Awst 2025.
Roedd yr aderyn wedi dod o nyth ar ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mharc Cenedlaethol Ardal y Copaon ('Peak District').
Cafodd y tag lloeren ei osod arno gan elusen yr RSPB, gyda chyllid gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn dilyn ei symudiadau.
Dangosodd y data fod yr aderyn wedi gadael Ardal y Copaon ac wedi ymgartrefu ar Fynydd Rhiwabon ar 28 Awst.
Tri diwrnod yn ddiweddarach, dangosodd y tag nad oedd yr aderyn yn fyw.
Daeth tîm chwilio o hyd i’r tag ar y mynydd ar 2 Medi, ond nid oedd corff yr aderyn yno.
Cafodd y tag ei anfon i gael ei ddadansoddi’n fforensig gan Heddlu Gogledd Cymru.
Harnais
Dangosodd y canlyniadau fod harnais y tag wedi’i dorri’n fwriadol gan ddefnyddio offeryn miniog.
Dywedodd Rhingyll Peter Evans o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru nad yw’r ymchwiliad wedi dod i gasgliad pendant.
“Er gwaethaf hyn, gallwn gadarnhau bod yr harnais wedi’i dorri’n fwriadol, ac mae’r amgylchiadau o amgylch diflaniad yr aderyn yn cael eu trin fel rhai amheus,” meddai.
“Mae Boda Tinwyn yn rhywogaeth brin a gwarchodedig yng Nghymru, gan wneud digwyddiadau o’r natur yma yn hynod o bryderus.”
Saethu
Mae’r RSPB yn amau bod yr aderyn wedi’i saethu a bod ei gorff wedi’i symud, ond nid oes neb wedi’i arestio na’i gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Yn ôl yr elusen, mae nifer o ddigwyddiadau amheus yn ymwneud ag adar ysglyfaethus wedi’u cofnodi ar Fynydd Rhiwabon neu gerllaw ers 2018.
Mae’r rhain yn cynnwys diflaniad neu farwolaeth amheus pum boda tinwyn oedd â thagiau lloeren.
Dywedodd Craig Best o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei bod yn “dorcalonnus” clywed am dynged yr aderyn.
“Os bydd erledigaeth yn parhau, byddwn yn colli rhywogaeth bwysig iawn sy’n hanfodol i iechyd y tirweddau hyn,” meddai.
Mae’r boda tinwyn ar y rhestr goch o rywogaethau sydd dan fygythiad yng Nghymru ac ar draws y DU.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu drwy ffonio 101.