Hanner y disgyblion uwchradd 'wedi osgoi'r ysgol yn sgil gorbryder'

Disgyblion ysgol

Mae arolwg newydd yn awgrymu fod hanner o ddisgyblion uwchradd yn y DU wedi osgoi'r ysgol yn y flwyddyn ddiwethaf yn sgil gorbryder.

Fe wnaeth arolwg o 2,000 o ddisgyblion uwchradd y DU a gafodd ei gomisiynu gan Minerva Virtual Academy ganfod fod 49.5% ohonyn nhw wedi methu neu osgoi ysgol am eu bod yn teimlo'n bryderus ar ryw adeg yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.

Fe ddywedodd y mwyafrif fod hyn wedi digwydd llai nag unwaith y mis (22%) ond fe ddywedodd 5.5% o'r disgyblion a gafodd eu holi fod hyn yn digwydd unwaith yr wythnos, 6.7% unwaith bob dwy i dair wythnos, a 8.3% unwaith y mis. 

Dywedodd llai na hanner (47.4%) nad oeddent erioed wedi colli nac wedi osgoi’r ysgol oherwydd gorbryder.

Roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu fod disgyblion Blwyddyn 13 chwe gwaith yn fwy tebygol na disgyblion Blwyddyn 7 i adrodd am osgoi'r ysgol oherwydd straen.

Fe awgrymodd hefyd fod disgyblion benywaidd wedi adrodd am osgoi'r ysgol 26.4 gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd o gymharu â 16.7 gwaith a adroddwyd gan ddisgyblion gwrywaidd. 

Roedd yr achosion mwyaf cyffredin o orbryder yn yr ysgol a gafodd eu nodi yn cynnwys pwysau arholiadau (27.6%), siarad o flaen y dosbarth (21.4%), ac ofn syrthio ar ei hôl hi (18.2%).

'System wedi ei gorlwytho'

Mae arolwg arall, a gafodd ei gomisiynu gan Censuswide, yn awgrymu fod mwy na thraean o ddisgyblion yn dweud nad oedden nhw yn teimlo fod athrawon yn deall eu pryder yn aml neu fyth.

Dywedodd sylfaenydd Minerva Virtual Academy, Hugh Viney nad oedd athrawon ar fai.

"Maen nhw eisiau bod yno i feithrin pob plentyn ond mae’r system wedi’i gorlwytho yn ormodol," meddai.

Mae ysgolion wedi bod yn wynebu argyfwng absenoldeb ers y pandemig, gydag absenoldeb cyson, sy'n golygu methu mwy na 10% neu fwy o wersi, yn cynyddu i 22.3% yn 2021/22.

Mae bellach wedi gostwng i 17.6% yn y data diweddaraf ond mae'n parhau'n sylweddol uwch na'r cyfraddau cyn y pandemig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.