Davina McCall yn priodi yn gudd ar ôl trafferthion iechyd
Mae’r darlledwr Davina McCall wedi priodi ei phartner Michael Douglas mewn seremoni gudd ar ôl derbyn triniaeth am ganser yn ei hymennydd a’i bron.
Dywedodd ffynhonnell agos at y teulu wrth bapur newydd y Daily Mail bod trafferthion iechyd y gyflwynwraig 58 oed eleni wedi cyfrannu at benderfyniad y ddau i briodi yn gynt na’r disgwyl.
Roedd y triniwr gwallt Michael Douglas wedi cynnig ei phriodi yn ystod gwyliau yn Ibiza dri mis yn ôl.
Fe briododd y ddau ddydd Gwener gyda ffrindiau a theulu agos yn unig.
Fe dderbyniodd Davina McCall driniaeth i dynnu tiwmor ar yr ymennydd y llynedd. Fe gafodd ddiagnosis o ganser ar ei bron eleni.
“Roedd eu priodas yn berffaith, yn union beth oedden nhw ei eisiau,” meddai ffynhonnell agos at y teulu wrth y Daily Mail.
“Roedden nhw wedi dewis lleoliad bach yn agos at adref ac wedi gwahodd tua 10 o ffrindiau a theulu i fod yno gyda nhw.
“Maen nhw wedi bod trwy lot fawr yn y misoedd diwethaf gydag iechyd Davina ac roedden nhw’n teimlo mai dyma’r amser cywir i briodi yn swyddogol. Doedden nhw ddim yn gweld pwynt disgwyl.
“Fe wnaethon nhw barhau gyda bywyd fel arfer y diwrnod wedyn, a drwy gyd-ddigwyddiad roedden nhw’n westeion ym mhriodas ffrind.”