Rhinoseros prin wedi ei eni mewn sŵ yn Sir Benfro

Rheino Folly Farm

Mae sŵ yn y de orllewin wedi cyhoeddi genedigaeth rhinoseros prin.

Ganwyd y rhinoseros du dwyreiniol, sydd heb ei enwi eto, yn Fferm Ffoli yn Sir Benfro ddydd Iau.

Mae'r anifail bach yn perthyn i rywogaeth sydd mewn perygl difrifol oherwydd bygythiadau potsio a cholli eu cynefinoedd naturiol.

Y llo bach yw'r ail i gael ei eni yng Nghymru fel rhan o raglen fridio arbennig, ac fe allai gael ei ryddhau i'r gwyllt i helpu i hybu niferoedd y boblogaeth.

Dywedodd Fferm Ffoli fod ei fam Dakima wedi cyflwyno ei "bwndel o lawenydd" yn gynnar yn y bore, ychydig cyn i'r ceidwaid gyrraedd i ddechrau ar eu gwaith am y diwrnod.

Dywedodd Jack Gradidge, swyddog cadwraeth y sŵ: "Agorodd ein ceidwad rhinoseros y tŷ rhinoseros a'r peth cyntaf a welodd oedd lluniau'r camera diogelwch, lle gwelwyd rhinoseros bach newydd-anedig yn cerdded o gwmpas y lloc yn hapus.

"Ar ôl cymryd cipolwg ar y llo bach i gadarnhau'r hyn a welodd, rhoddodd wybod i'r tîm y newyddion hapus bod y babi wedi cyrraedd."

Cyrhaeddodd Dakima, sy'n 12 oed, Fferm Ffoli yn 2017 fel rhan o'r rhaglen fridio a chafodd ei pharu â'i phartner, Nkosi, 14 oed.

Dywed y sŵ fod eu perthynas wedi "blodeuo" yn gyflym a rhoddodd Dakima enedigaeth i'w llo cyntaf, Glyndŵr, yn 2020.

Dywedodd Mr Gradidge: "Roedd Dakima yn fam wych gyda 'Glyn' felly mae'n hyfryd gweld bod y greddfau hyn yr un mor gryf yr ail dro.

"Mae hi'n amddiffynnol iawn o'i babi newydd, gan ddangos bod ganddyn nhw gyswllt cryf yn barod

"Mae hwn yn ddigwyddiad mor wych i'r holl staff yma ac mae tîm y sŵ wedi gweithio'n anhygoel o galed i greu amgylchedd lle'r oedd y rhinoseros yn teimlo'n ddigon cyfforddus i baru."

Llun: Fferm Ffoli

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.