Ymgynghori ar ddyfodol toiledau cyhoeddus Aberystwyth
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ddyfodol rhai o doiledau cyhoeddus tref Aberystwyth.
Mae Cyngor Sir Ceredigion am drosglwyddo cyfrifoldebau toiledau cyhoeddus Castell Aberystwyth ynghyd â bloc Coedlan y Parc i Gyngor Tref Aberystwyth.
Yn 2023, dywedodd y cyngor sir pe na bai Cyngor Tref Aberystwyth yn darparu cymorth ariannol i gynnal y ddau safle, y byddent yn debygol o gau.
Ers hynny, mae’r cyngor tref wedi cyfrannu hyd at £26,500 y flwyddyn, sef y costau ar gyfer agor un bloc o doiledau yn y dref.
Erbyn hyn, mae Cyngor Tref Aberystwyth mewn trafodaethau â Chyngor Sir Ceredigion er mwyn cymryd cyfrifoldeb lawn dros y toiledau.
Wrth i’r esgid wasgu, chwilio am ffyrdd i dorri ar wasanaethau nad ydynt yn statudol mae Cyngor Sir Ceredigion.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Tref Aberystwyth y bydd costau y ddau doiled yn £40,000 y flwyddyn.
Mae’r £40,000 yma yn cynnwys costau staff glanhau, gwaith cynnal a chadw a thrwsio difrod ar ôl fandaliaeth.
Yn ôl y cyngor tref, byddai hyn yn gynnydd o tua £9.50 (6.09%) yn ei chyllideb flynyddol o Dreth y Cyngor.
Mae'r "ymgynghoriad hwn yn gyfle i gasglu barn ac ymgynghori â phartïon sydd â diddordeb ynghylch y toiledau cynoeddus" meddai'r cyngor.
"Yn y pen draw, bydd y penderfyniad i gymryd cyfrifoldeb am y toiledau, neu beidio, yn nwylo eich Cynghorwyr Tref."
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 25 Ionawr 2026.
Llun: Cyngor Tref Aberystwyth