Ymchwiliad Covid 19 wedi costio 'mwy na £100 miliwn hyd yn hyn'

COVID

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus i'r pandemig wedi costio mwy na £100 miliwn i Lywodraeth y DU hyd yn hyn yn ôl ffigyrau swyddogol.

Data gan Swyddfa'r Cabinet sydd yn dangos y costau ac maent yn cynnwys cyngor cyfreithiol a staff penodol sydd yn gweithio ar baratoi tystiolaeth.

Mae'r gost ar ben yr £192 miliwn ar gyfer yr ymchwiliad ei hun hyd yn hyn a'r disgwyl yw mai'r ymchwiliad hwn fydd yr un mwyaf drud yn hanes Prydain.

Mae'r BBC ac asiantaeth newyddion PA yn dweud eu bod wedi gweld y dogfennau. Maent yn dangos bod yr hyn sydd yn gyfystyr â 248 o staff llawn amser yn gweithio ar ymateb y llywodraeth i'r ymchwiliad Covid.

£21.6 miliwn oedd y gost ar gyfer cyfanswm cost staff uned ymateb y Llywodraeth ar gyfer yr ymchwiliad yn 204/25. Roedd y costau cyfreithiol bron yn £25 miliwn. 

Yn y flwyddyn flaenorol £18 miliwn oedd costau staff a £26.2 miliwn oedd y costau cyfreithiol.

Yn nhri mis cyntaf eleni mae mwy na £5 miliwn wedi ei wario ar staff a mwy na £5 miliwn ar gostau cyfreithiol.

Mae Swyddfa'r Cabinet wedi dweud eu bod wedi "ymrwymo yn llwyr i gefnogi gwaith yr ymchwiliad ac i ddysgu gwersi o'r pandemig i wneud yn siŵr bod Prydain wedi paratoi yn well ar gyfer pandemig arall yn y dyfodol."  

Mae Cynghrair y Trethdalwyr wedi dweud wrth y BBC bod hyn yn wastraff arian.

Yn ôl Grŵp Teuluoedd er Cyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 mae'r gwaith sydd yn digwydd yn hollbwysig. Ond mae llefarydd wedi dweud wrth y BBC bod ymchwiliadau cyhoeddus yn gyffredinol angen bod yn fwy effeithiol a llai gelyniaethus. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.