Cyfraddau hunanladdiad dynion 'ar ei lefel uchaf erioed' yng Nghymru
Mae cyfraddau hunanladdiad dynion yng Nghymru "ar ei lefel uchaf erioed" yn ôl ymchwil diweddaraf.
Roedd 337 o ddynion wedi marw drwy hunanladdiad yn 2024, y nifer fwyaf ar record.
Dyma'r uchaf yn y Deyrnas Unedig y llynedd ac y gwaethaf ers i gofnodion gael eu cadw cyntaf yn 1981.
Ers 2000 mae bron i 7,000 o ddynion yng Nghymru wedi marw drwy hunanladdiad.
Y Ganolfan dros Ymchwil Polisi ar Ddynion a Bechgyn sydd wedi ymchwilio i'r ffigyrau diweddaraf.
Mae eu cyfarwyddwr polisi yn dweud bod y ffigyrau diweddaraf yn "bryder enfawr".
"Mae pob bywyd sydd yn cael ei golli yn drasiedi," meddai Mark Brooks.
"Ac mae'r ffigyrau diweddaraf yn bryder enfawr. Maen nhw'n parhau i godi a nawr y gwaethaf erioed yng Nghymru a'r uchaf yn y Deyrnas Unedig.
"Mae angen strategaeth a chynllun penodol sydd yn canolbwyntio ar hunanladdiad dynion, ac yn fwy eang, ar iechyd dynion."
'Deall y broblem'
Hunanladdiad yw'r ffordd mae rhan fwyaf o ddynion dan 50 oed yn marw yng Nghymru.
Y gyfradd bresennol yng Nghymru ar gyfer hunanladdiad dynion yw 25 mewn 100,000, gyda'r ffigwr ar gyfer menywod yn llai - 6.8 mewn 100,000. Dyma'r ffigwr uchaf yng Nghymru ers 2017.
Mae Mark Brooks yn dweud bod angen strategaeth genedlaethol i fynd i'r afael gyda'r hyn sy'n digwydd.
“Er mwyn delio ag unrhyw broblem, mae’n wirioneddol bwysig ei deall yn iawn," meddai.
"Os na fyddwn ni yn edrych ar broblem hunanladdiad heb edrych ar rywedd, ni fyddwn ni byth yn gwneud cynnydd sylweddol o ran atal y rhai sydd yn cymryd bywydau eu hunain.
"Mae angen i ni wybod pam bod cymaint o ddynion yng Nghymru yn cymryd eu bywydau eu hunain, sydd yn drasiedi i’r dynion hynny a’u teuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr, a phawb sy’n eu caru.”
Mae gan Gwasanaeth Iechyd Cymru gynllun ar gyfer problemau iechyd menywod. Yn ôl Mr Brooks byddai'n "fuddiol" cael cynllun tebyg ar gyfer dynion.
Tra'n "croesawu" y strategaeth atal hunanladdiad sydd yn ei le yn barod mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu strategaeth benodol ar gyfer dynion.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Drwy'r cynllun Cymru Iachach a'n cynlluniau cydraddoldeb cenedlaethol, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a sicrhau bod pawb - yn enwedig y rhai sydd fwyaf mewn perygl o niwed - yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal.
"Rydym yn datblygu mynediad agored at gymorth iechyd meddwl ar yr un diwrnod i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn cefnogaeth tosturiol a pherson-ganolog, pryd bynnag y mae ei angen.
"Yn gynharach eleni fe wnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd ac rydym yn buddsoddi mwy na £2m yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio, sy'n nodi cynnydd sylweddol o ran deall risg hunanladdiad, yn enwedig ymhlith dynion."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan yr erthygl hon, mae cymorth fan hyn.