Person di-enw yn cyfrannu at oleuadau Nadolig Machynlleth
Person di-enw yn cyfrannu at oleuadau Nadolig Machynlleth
Mae'r sêr Nadolig yn disgleirio eto eleni ar stryd fawr Machynlleth a hynny ar ôl i rodd gan berson di-enw ac arian cyfatebol gan Faer y dref dalu am eu gosod i fyny.
Clwb rotari y dref sydd yn berchen ar y goleuadau. Ond roedden nhw wedi dweud nad oedden nhw yn gallu fforddio'r bil gan Gyngor Powys i'w rhoi nhw fyny eleni.
Roedd Coeden fawr y Maer yn y sgwâr wedi ei goleuo ond ddim y goleuadau eraill.
"O'dd pobl y dref yn eitha fflat bod y goleuadau ma ddim yn mynd fyny," meddai Alwyn Evans o Gyngor Tref Machynlleth.
"Ond buan iawn mi drodd hynny i fod yn stori bositif i ni yn Machynlleth,"
Dyw hi ddim yn glir pwy oedd y person di enw wnaeth gyfrannu at eu gosod i fyny.
Ond mae trigolion y dref yn hapus i'w gweld eto eleni er mwyn dathlu cyfnod y Nadolig.