Cau rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn dilyn tirlithriad

Tirlithriad Nefyn

Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru ar gau yng Ngwynedd yn dilyn tirlithriad fore dydd Mawrth.

Cafodd llwybr troed Penrallt, Nefyn sydd hefyd yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru ei gau i gerddwyr am y tro yn dilyn y digwyddiad. 

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd bod eu swyddogion yn parhau i asesu’r sefyllfa.

"Gofynnwn i’r cyhoedd gadw draw tra bod y gwaith yma’n digwydd er mwyn diogelu’r cyhoedd," meddai datganiad gan y cyngor.

"Bydd ein swyddogion yn darparu llwybr amgen yn y dyddiau nesaf tra’n trafod datrysiad tymor hir i’r sefyllfa gyda thirfeddianwyr cyfagos", ychwanegodd y cyngor.
 
Llun: Cyngor Gwynedd

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.