Menyw ddigartref 'mor hapus' ar ôl sicrhau fflat newydd
Mae menyw ddigartref a siaradodd am ei sefyllfa gyda Newyddion S4C wythnos ddiwethaf wedi sicrhau cartref newydd iddi hi ei hun.
Ers pythefnos, roedd Tina Potter o Ben-y-bont ar Ogwr wedi bod yn byw mewn gwesty gwely a brecwast ar ôl cael ei gwahardd o hostel i'r digartref.
Yn ôl Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, dim ond yn yr achosion "mwyaf difrifol" y maen nhw'n gofyn i rywun adael llety dros dro.
Dywedodd yr awdurdod lleol wrth Ms Potter wythnos ddiwethaf nad oedd ganddyn nhw gyfrifoldeb i'w chartrefu bellach.
Cafodd ei gwahardd o hostel i'r digartref wedi "digwyddad".
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Ms Potter iddi daflu gwrthrych at gyd-letywr yn yr hostel. Honnodd iddi wneud hynny er mwyn amddiffyn ei hun.
Cysylltodd grŵp cymunedol BARC â Newyddion S4C yn amlinellu achos Ms Potter a chodi pryderon amdani.
'Trychinebus'
Dywedodd Rebecca Lloyd, sydd yn gweithio i BARC: "Roedd hi'n -4 [gradd celsiws] neithiwr...dwi'n meddwl petai Tina ar y strydoedd neithiwr, yn y tywydd yna, a gyda chyflyrau Tina - mae ganddi gyflyrau corfforol a iechyd meddwl - dwi'n credu y byddai pethau wedi bod yn drychinebus y bore 'ma. Hynny yw - yn farwol.
"Dwi'n credu y gallai opsiynau eraill fod ar gael, fel llety gyda goruchwyliaeth neu lety gyda chefnogaeth, ar gyfer pensiynwraig sydd, er o bosibl yn anwadal, ddim hyd y gwelaf i yn peri risg corfforol mawr i unrhyw un."
Wedi i Ms Potter siarad â Newyddion S4C, codwyd cannoedd o bunnoedd gan aelodau o'r cyhoedd i dalu am lety dros dro iddi.
Mae wedi cadarnhau ddydd Mawrth ei bod bellach wedi dod o hyd i fflat iddi hi ei hun.
Chafodd hi ddim cymorth gan yr awdurdod lleol i ganfod llety yn ôl Barc.
Dywedodd Ms Potter wrth Newyddion S4C: "Rwy'i mor hapus - doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gennyf gartref i fy hun at y Nadolig.
"Alla'i ddim diolch digon i bawb am yr hyn maen nhw wedi ei wneud a'r arian maen nhw wedi rhoi i fi.
"Diolch. Mae gennyf gartref a gwaith yn gwirfoddoli yn y dref a alla'i roi rhywbeth nôl i'r gymuned nawr - maen nhw'n sêr i gyd."
'Mater cymhleth'
Wrth ymateb i Newyddion S4C wythnos ddiwethaf, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr:
"Tra'n bod ni'n methu trafod manylion yr achos, mae hwn yn fater cymhleth, ac mae'n bwysig nodi nad yw'r holl fanylion wedi eu gwneud yn gyhoeddus.
"Dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol bydden ni'n gofyn i rywun adael llety dros dro, ac hyd yn oed bryd hynny, rydyn ni'n cysyllu â phartneriaid ar eu rhan i geisio dod o hyd i gefnogaeth amgen."
