Y bardd Gwyneth Lewis yn ‘anabl am ddegawd’ gyda chur pen

Elin Fflur yn holi'r bardd Gwyneth Lewis

Mae’r bardd Gwyneth Lewis yn dweud iddi gael ei chaethiwo i’w chartref gyda chur yn ei phen ofnadwy am gyfnod o’i bywyd.

“Fydden i yn gweud bo fi di bod yn anabl am ddegawd. Ac nid yn unig hynny, o’n i yn cael pennau tost bron yn barhaol. O’n i ddim yn gallu gadael y tŷ, ddim yn gallu codi o’r gwely, ddim yn gallu cael gwared â’r poen o gwbl,” meddai wrth raglen Dan y Lloer. 

Yn ystod rhaglen Sgwrs o Dan y Lloer ar S4C,  mae’n sôn am ei pherthynas anodd gyda’i mam. Mae’n dweud iddi gael ei chamdrin yn emosiynol ganddi.

Y llynedd fe wnaeth hi ysgrifennu llyfr am ei phrofiad, ‘Nightshade Mother: A Disentangling.’

Mae delio gyda'i magwraeth wedi bod yn fuddiol iddi meddai. 

“Ma nhw yn dangos bod 'na gysylltiad rhwng cael eich camdrin yn emosiynol a meigryn yn benodol. Wedyn mae 'na ymchwil yn dangos hynny. A wy’n credu hefyd bod gwynebu’r gorffennol yn llwyr ac edrych ar y peth yn ei grynswth wedi codi ryw densiwn yno fi.”

Erbyn hyn dyw hi ddim yn dioddef gyda meigryn. 

'Patrwm o ymddygiad' 

Mae Gwyneth Lewis yn dweud mai ‘patrwm o ymddygiad’ oedd y gamdriniaeth wnaeth hi ddioddef.

“Bydde mam yn mynd yn ddrwg ei thymer ac wedyn bydden ni yn neud rhywbeth bach yn rong ond rhywbeth fydde yn ei chythruddo hi. Ond wedyn o’n i yn cael fy nghosbi a fydde hi wedyn ddim yn siarad gyda ni am dridie falle ac yn mynd i’w gwely.”

Pan wnaeth hi ddangos diddordeb mewn barddoniaeth mi wnaeth ei mam, oedd yn athrawes Saesneg ei gwthio. Ond roedd hi hefyd meddai yn ei “helpu gormod”. 

Ar ôl cyfnod o gystadlu yn yr Urdd a chael llwyddiant fe wnaeth hi roi’r gorau i ysgrifennu. “Odd hwnna yn wrthryfel oedd, ond nath e ddim lles i fi achos wy yn naturiol, mae angen i fi sgwennu i fod yn iach. Odd e fel brifo’n hunan i fod yn rhydd o’r pwyse oddi wrth Mam,” meddai.

Fe gafodd hi chwalfa emosiynol (breakdown) yn  y brifysgol yng Nghaergrawnt. “Y cyfan oedd gen i oedd iaith hunan feirniadol. Doedd gen i ddim sylfaen o dano fi o gwbl ac fe aeth popeth yn ffradach.”

'Wylo isie yfed' 

Fe adawodd hi’r brifysgol ac ail gychwyn ysgrifennu. Wedi cyfnod o weithio fe aeth hi yn ôl a chael cyfnod hapus yn y coleg. 

Ond mae’n dweud iddi roi’r gorau i yfed alcohol yn naw ar hugain ar ôl bod yn yfed yn drwm am flynyddoedd. 

“Pan ych chi yn ifanc, chi’n meddwl,'O sdim problem'. Ond o’n i yn gwybod yn weddol gyflym bod fi ddim cweit yn normal wrth i fi yfed.”

Mae’n cofio “cerdded strydoedd Caerdydd yn wylo isie yfed a ddim yn meiddio, gormod o ofon arnai.” 

Roedd penderfynu cyhoeddi’r llyfr am ei chamdriniaeth yn anodd meddai am ei bod yn datgelu’r gyfrinach deuluol. 

Ond trwy gyhoeddi mae yna “rhyddhad” wedi bod.

“Be sy’n wych ydy bod pobl sydd wedi bod trwy brofiad fel hyn a gwaeth wedi cysylltu ac mae hwnna yn golygu’r byd i fi. Dyna’r wobr.” 

Er ei llwyddiannau niferus fel bardd - Coron yr Eisteddfod, Llyfr y Flwyddyn ac MBE dyw hi ddim meddai yn berson hyderus o gwbl. 

“Creaduriaid petrus iawn yw’r beirdd. Dyw beirdd ddim cweit fel ych chi’n feddwl.” 

Dyw Gwyneth Lewis ddim yn disgwyl y bydd ei geiriau yn cael ei chofio pan fydd hi wedi gadael y byd. 

“Y peth mwyaf pwysig i fi yw bod fi yn cael fy nghofio fel person caredig, beth sydd yn bwysicach na hynny.”

Gwyliwch Sgwrs Dan y Lloer: Gwyneth Lewis am 20.00 ar S4C nos Lun, Rhagfyr 15.

Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.