Parseli banciau bwyd i gael eu dosbarthu 'bob 10 eiliad' y gaeaf hwn

Banc Bwyd PA

Mae elusen sy'n gyfrifol am fanciau bwyd ar hyd a lled y DU yn dweud eu bod yn amcangyfrif y bydd parsel bwyd yn cael ei ddarparu bob 10 eiliad yn ystod y gaeaf hwn.

Dywedodd elusen banc bwyd y Trussell Trust fod costau cynyddol nwyddau hanfodol fel bwyd, trydan a rhent yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi.

Dywedodd y sefydliad fod 740,000 o barseli bwyd brys wedi’u dosbarthu ledled y DU rhwng Rhagfyr 2024 a mis Chwefror eleni. 

Mae hyn medden nhw 40% yn uwch na lefelau cyn y pandemig bum mlynedd yn ôl.

Fe aeth tua un o bob tri (266,000) parsel a gafodd ei ddosbarthu'r gaeaf diwethaf i blant, sy’n cynrychioli cynnydd o 29% o’i gymharu â’r cyfnod rhwng Rhagfyr 2019 a Chwefror 2020.

Fe wnaeth nifer y parseli a gafodd eu dosbarthu i’r rhai dros 65 oed dreblu i fwy na 24,000, meddai Trussell Trust.

Roedd mwy na 68,000 o deuluoedd wedi defnyddio banc bwyd am y tro cyntaf y gaeaf diwethaf ac mae disgwyl i'r niferoedd gynyddu eleni.

Un o gefnogwyr ymgyrch y Trussell Trust eleni yw'r Gymraes a chyn-gyflwynydd Countdown, Carol Vorderman, sydd yn dod o gefndir difreintiedig.

Fe ddywedodd bod “caledi o’r math yma yn aros gyda chi”.

Ychwanegodd: “Eleni, bydd gormod o bobl yn treulio cyfnod yr ŵyl yn poeni’n ddifrifol, yn hepgor prydau bwyd er mwyn i’w plant allu bwyta ac yn ansicr sut y byddant yn ymdopi.

“Nid oes rhaid iddo fod felly a gyda’n gilydd, gallwn alw am newid i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd. Ond tan hynny, mae banciau bwyd yn parhau i fod yn llinell achub i bobl sy’n ei chael hi’n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.