Hillsborough: 'Byddai 12 swyddog wedi wynebu achos o gamymddwyn difrifol'
Mae ymchwiliad i drychineb Hillsborough yn 1989 wedi dod i'r casgliad y byddai 12 o swyddogion yr heddlu wedi wynebu achos o gamymddwyn difrifol am "fethiannau sylfaenol" ar y diwrnod ac "ymdrechion ar y cyd" i feio cefnogwyr yn dilyn hynny.
Fe wnaeth yr adroddiad gan y Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), a gafodd ei gyhoeddi brynhawn Mawrth, hefyd gadarnhau neu ddarganfod achosion i’w hateb am gamymddwyn mewn 92 o gwynion am weithredoedd yr heddlu.
Ond roedd y gyfraith ar y pryd yn golygu na fydd unrhyw swyddogion yn wynebu achos disgyblu oherwydd eu bod wedi ymddeol cyn i'r ymchwiliadau ddechrau.
Dechreuodd ymchwiliadau i'r trychineb gan yr IOPC ac ymchwiliad troseddol Operation Resolve yn 2012.
Roedd hynny yn dilyn cyhoeddi adroddiad Panel Annibynnol Hillsborough ym mis Medi'r flwyddyn honno.
Dywedodd Nicola Brook, cyfreithwraig gyda chwmni Broudie Jackson Canter sy'n gweithredu ar ran nifer o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y trychineb, ei bod yn "anghyfiawnder chwerw" na fyddai neb yn cael ei ddwyn i gyfrif.
"Efallai y bydd y canlyniad yma yn cyfiawnhau'r teuluoedd a'r goroeswyr sydd wedi ymladd ers degawdau i ddatgelu'r gwir, ond nid yw'n darparu unrhyw gyfiawnder," meddai.
"Yn hytrach, mae'n datgelu system sydd wedi caniatáu i swyddogion gerdded i ffwrdd, gan ymddeol heb gael eu harchwilio nag eu cosbi am fethu â chyrraedd y safonau y mae gan y cyhoedd bob hawl i'w disgwyl.
"Ydy, mae'r gyfraith wedi newid bellach felly nid oes modd defnyddio'r loophole yma yn y dyfodol.
"Ond i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achos yma, nid yw hynny'n gysur.
"Maen nhw wedi'u gadael gydag anghyfiawnder chwerw arall eto: y gwir wedi'i gydnabod o'r diwedd, ond atebolrwydd wedi'i wadu."
'Siomi dro ar ôl tro'
Ymhlith y rhai a fyddai wedi gorfod wynebu achos o gamymddwyn difrifol pe baent yn dal i wasanaethu roedd prif gwnstabl Heddlu De Sir Efrog ar y pryd, Peter Wright, a Chomander y gêm, David Duckenfield, yn ogystal â Syr Norman Bettison, a aeth ymlaen i fod yn brif gwnstabl Heddlu Glannau Mersi.
Bu farw 97 o bobl ar ôl iddyn nhw gael eu gwasgu yng nghanol y dorf yn ystod gêm bêl-droed rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989.
Dyfarnodd rheithgor mewn cwest yn 2016 i'r cefnogwyr gael eu lladd yn anghyfreithlon, wedi sawl camgymeriad gan yr heddlu.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol yr IOPC, Kathie Cashell, fod y dioddefwyr, eu teuluoedd a'r goroeswyr wedi cael eu "siomi dro ar ôl tro".
"Yn gyntaf gan hunanfodlonrwydd dwfn Heddlu De Sir Efrog yn eu paratoadau ar gyfer y gêm, ac yna eu methiant sylfaenol i fynd i'r afael â'r trychineb wrth iddi ddatblygu, ac yna trwy ymdrechion cydlynol yr heddlu i roi'r bai ar gefnogwyr Lerpwl, sydd wedi achosi gofid enfawr i deuluoedd mewn galar a goroeswyr am bron i bedwar degawd," meddai.
"Cawsant eu siomi eto gan yr ymchwiliad anesboniadwy o gul i’r drychineb a gynhaliwyd gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, a oedd yn gyfle a gollwyd i ddod â’r methiannau hyn i’r amlwg yn llawer cynt."
Fe gafodd swyddogion Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a oedd yn arwain yr ymchwiliad i’r trychineb, y prif gwnstabl cynorthwyol Mervyn Jones, a’r prif uwch-arolygydd ditectif ar y pryd Michael Foster, eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron am eu methiannau.
Ond ni ddaeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad fod y trothwy wedi ei gyrraedd.
'Tuedd'
Dywedodd yr IOPC y byddai gan y ddau gyn-swyddog achosion i’w hateb am gamymddwyn difrifol ar ôl methu â chynnal ymchwiliad trwyadl am eu bod yn “dangos tuedd tuag at y llu ac yn erbyn y cefnogwyr”.
Cafwyd Mr Duckenfield, 81 oed, oedd yn brif uwch-arolygydd ar y diwrnod, yn ddieuog o ddynladdiad drwy gamymddwyn difrifol gan reithgor yn 2019.
Dywedodd adroddiad yr IOPC ei fod wedi “rhewi yn yr argyfwng” a bod ganddo achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol mewn cysylltiad â 10 honiad, gan gynnwys methu ag ateb a dweud wrth swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Lloegr fod cefnogwyr wedi gorfodi eu ffordd i fewn, honiad y gwnaeth gydnabod yn ddiweddarach oedd yn gelwydd.
Fe wnaeth yr adroddiad nodi fod honiadau bod cefnogwyr ar fai am y trychineb wedi cael eu ‘gwrthbrofi’n llwyr’ mewn cwestau newydd i’r marwolaethau, a ddaeth i’r casgliad yn 2016 fod cefnogwyr wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.
Swyddogion eraill a fyddai wedi wynebu achosion am gamymddwyn difrifol yn ymwneud â’u gweithredoedd ar y diwrnod oedd dirprwy Mr Duckenfield, Bernard Murray, a’i uwch-swyddog, y prif gwnstabl cynorthwyol Walter Jackson.
Byddai’r cwnstabl heddlu David Scott hefyd wedi wynebu achos am gamymddwyn difrifol am ei honiad fod ei geffyl wedi dioddef llosgiadau o sigarét gan gefnogwyr Lerpwl – digwyddiad na wnaeth ddigwydd yn ôl y dystiolaeth yn ôl yr IOPC.