Trychineb Hillsborough: Disgwyl cyhoeddi adroddiad ar weithredoedd swyddogion
Mae disgwyl i gorff gwarchod yr heddlu gyhoeddi ei adroddiad ar weithredoedd swyddogion yn ystod ac ar ôl trychineb Hillsborough yn 1989 brynhawn Mawrth.
Mae'r Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi bod yn ymchwilio i Heddlu De Sir Efrog ers 2012.
Dyma’r ymchwiliad annibynnol mwyaf erioed i honiadau o gamymddwyn a throsedd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Mae trychineb Hillsborough yn parhau i fod y trychineb gwaethaf yn hanes chwaraeon Prydain.
Cafodd cefnogwyr pêl-droed eu gwasgu yng nghanol y dorf yn ystod gêm bêl-droed rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar 15 Ebrill 1989.
Bu farw 97 o bobl a dyfarnodd rheithgor mewn cwest yn 2016 iddyn nhw gael eu lladd yn anghyfreithlon, wedi sawl camgymeriad gan yr heddlu.
Ym mis Mawrth, dywedodd yr IOPC wrth deuluoedd dioddefwyr na fyddai unrhyw swyddogion yn wynebu achos camymddwyn oherwydd nad oedd y ddeddfwriaeth a oedd ar waith ar y pryd yn ei gwneud yn ofynnol i'r heddlu ddweud y gwir.
Ychwanegodd fod dwsinau o honiadau o gamymddwyn yn erbyn swyddogion wedi'u cadarnhau, ond ni fyddai'r un ohonynt yn wynebu achos disgyblu oherwydd eu bod i gyd wedi gadael yr heddlu erbyn hyn.
'Gobeithio y bydd y gwir yn dod allan'
Roedd Roger Edwards o Ruthun yn Hillsborough gyda dau ffrind a'i fab 12 oed.
"Dwi'n gobeithio y bydd y gwir yn dod allan o'r diwedd. Mae o wedi cymryd gymaint o amser," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"I ddweud y gwir do'n i ddim yn gwybod bod 'na adroddiad newydd yn dod allan, o'n i'n meddwl bod y peth wedi gorffen."
Dywedodd Mr Edwards nad oedd wedi cael unrhyw gysur o'r adroddiadau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi.
"O'n i'n flin efo be' sy' 'di dod allan yn barod gydag adroddiadau ac ymchwil pobl fel Phil Scraton [arweinydd ymchwil Panel Annibynnol Hillsborough]," meddai.
"Achos o'n i'n gwbod bod be' natho ni ddarllen yn y wasg, efo'r Sun, bod hynny ddim yn wir. Cyn y gêm, weles i ddim cambihafio o gwbl tu allan i'r cae. Ond agwedd y wasg oedd rhoi bai ar cefnogwyr Lerpwl wrth gwrs."
Fe aeth ymlaen i ddweud ei fod yn teimlo'n euog am yr hyn a welodd ei fab yn ystod y digwyddiad.
"'Da 'ni yn poeni braidd bod Gareth, y mab, wedi gweld pobl yn y body bags pan oeddan ni'n cerdded allan o'r cae tua awr ar ôl i'r trychineb ddigwydd," meddai.
"Felly dwi'n teimlo braidd yn euog bo' fi wedi rhoi o drwy hynny."
Beth yw ffocws yr ymchwiliad?
Mae ymchwiliad yr IOPC yn canolbwyntio ar newidiadau a gafodd eu gwneud i gofnodion swyddogion a oedd yn Hillsborough a honiadau bod gwybodaeth gamarweiniol wedi'i throsglwyddo gan yr heddlu i'r cyfryngau, ASau, Senedd San Steffan, a'r ymchwiliadau a sefydlwyd yn syth ar ôl y trychineb.
Mae hefyd wedi bod yn edrych ar rôl Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a oedd wedi arwain yr ymchwiliad i'r drychineb.
Mae'r corff eisoes wedi cadarnhau bod ei ymchwiliad yn "cyd-fynd" â chanfyddiadau ymchwiliad Panel Annibynnol Hillsborough a'r cwestau yn 2016.
Daw'r adroddiad ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno Cyfraith Hillsborough i Dŷ'r Cyffredin ym mis Medi.
Bydd y gyfraith yn gorfodi swyddogion cyhoeddus i ddweud y gwir yn ystod ymchwiliadau i drychinebau mawr.
Llun: Reuters