Cwest: Cyhoeddi enw dyn a fu farw mewn damwain ar yr A5
Bu farw dyn ar ôl i’r car yr oedd yn ei yrru daro fan ac yna wal ar yr A5 yn Sir Ddinbych fis diwethaf, mae cwest wedi clywed.
Wrth agor y gwrandawiad yn Rhuthun, fe ddywedodd yr Uwch Grwner John Gittins, fod Ryan Morris, o The Oaks yn Nhrefor, ger Llangollen, yn gyrru car Vauxhall Corsa ger Glyndyfrdwy toc cyn 06.00 ar fore Iau 20 Tachwedd.
“Roedd yn fore rhewllyd,” meddai Mr Gittins.
Clywodd y cwest fod y Corsa wedi croesi i’r lôn gyferbyn gan daro fan Mercedes Sprinter cyn taro wal.
Cadarnhaodd parafeddygon bod Mr Morris a oedd yn 39 oed, wedi marw yn y fan a’r lle.
Fe gafodd y cwest ei ohirio gyda dyddiad y gwrandawiad nesaf i’w gadarnhau maes o law.