Ymddiswyddiad ar ôl i'r Gyllideb gael ei chyhoeddi'n gynnar

Richard Hughes

Mae Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) Richard Hughes wedi ymddiswyddo ar ôl i'r Gyllideb gael ei chyhoeddi'n gynnar.

Fe gafodd adroddiad yr OBR ei gyhoeddi i'r wasg cyn i'r Canghellor gyflwyno ei Chyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher diwethaf.

Dywedodd Rachel Reeves bod cyhoeddi manylion y Gyllideb yn gynnar yn “gamgymeriad difrifol a hynod o siomedig” ar ran y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. 

Mewn llythyr at Rachel Reeves a chadeirydd Pwyllgor Dethol y Trysorlys, dywedodd Richard Hughes ei fod eisiau sicrhau bod gan yr OBR gyfle i "symud ymlaen yn gyflym o'r digwyddiad anffodus hwn".

"Rwy'n siŵr y gall yr OBR adennill ac adfer yn gyflym yr hyder a'r parch y mae wedi'u hennill drwy 15 mlynedd o ddadansoddiad economaidd trylwyr, annibynnol," meddai.

"Ond mae angen i mi hefyd chwarae fy rhan i alluogi bod y sefydliad hwn rwyf wedi bod wrth fy modd yn ei arwain am y pum mlynedd diwethaf, yn medru symud ymlaen yn gyflym o'r digwyddiad anffodus hwn. 

"Felly, rwyf wedi penderfynu er lles yr OBR fy mod yn ymddiswyddo fel cadeirydd a chymryd cyfrifoldeb llawn am y diffygion sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad."

Dechreuodd Mr Hughes ei swydd fel Cadeirydd yr OBR yn ystod pandemig Covid-19 yn 2020, cyn i chwyddiant gynyddu'n sydyn yn 2021.

Roedd ei gyfnod o bum mlynedd yn y swydd i fod i ddod i ben ym mis Hydref, ond ym mis Mai roedd y Canghellor wedi ei enwebu ar gyfer ail gyfnod o bum mlynedd yn y swydd.

Mae Gweinidog y Trysorlys, James Murray, wedi diolch i Mr Hughes am ei "ymroddiad i wasanaethau cyhoeddus", wedi iddo ymddiswyddo.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Mr Murray: "Yn ystod y ddadl hon mae Richard Hughes wedi cynnig ei ymddiswyddiad.

"Hoffwn ddweud ar ran y llywodraeth ein bod yn diolch i Richard Hughes am ei ymroddiad i wasanaethau cyhoeddus."

Mae arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, wedi cyhuddo Ms Reeves o ddefnyddio cadeirydd yr OBR er mwyn osgoi cymryd bai am y Gyllideb.

Mewn datganiad ar X, dywedodd: "Mae rhywun wedi ymddiswyddo o ganlyniad i anhrefn y Gyllideb... ond nid Rachel Reeves yw hynny.

"Mae'r Canghellor yn ceisio defnyddio cadeirydd yr OBR i osgoi cymryd bai. Ond ni fyddaf yn gadael iddi wneud hynny.

"Pam ei fod yn fai rhywun arall pob tro gyda Starmer a Reeves?"

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.