Statws swyddogol i ddwy iaith yn yr Alban
Mae Gaeleg yr Alban a'r iaith Albanaidd yn cael eu cydnabod bellach yn ieithoedd swyddogol.
Daeth hynny i rym wrth i Albanwyr ddathlu Diwrnod Sant Andreas ar 30 Tachwedd.
Mae'n rhan o Ddeddf Ieithoedd yr Alban, sef mesur a gafodd ei gyflwyno yn 2023.
Bydd grymoedd gan weinidogion yr Alban i gomisiynu ymchwil i ddefnydd Gaeleg yr Alban a'r iaith Albanaidd, gan ystyried safonau dysgu'r ieithoedd.
Mae'r mesurau newydd yn y ddeddf hefyd yn rhoi'r hawl i rieni ofyn am sefydlu ysgol Aeleg yn eu hardal.
Bydd cefnogaeth ar gael er mwyn creu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol mewn cymunedau Gaeleg eu hiaith.
Y nod, yn ôl Llywodraeth yr Alban yw galluogi gweinidogion i dargedu eu cefnogaeth yn well, er mwyn ceisio sicrhau twf yr iaith.
Mae'r ddeddf hefyd yn galluogi rhieni ym mhob rhan o'r Alban i ymgeisio am le mewn meithrinfeydd a dosbarthiadau blynyddoedd cynnar Gaeleg.
Bydd targedau yn cael eu cyflwyno hefyd er mwyn ceisio cynyddu'r niferoedd sy'n siarad a dysgu Gaeleg.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Kate Forbes: "Mae hon yn garreg filltir hanesyddol, sy'n cydnabod rôl allweddol yr ieithoedd hyn yn niwylliant a threftadaeth yr Alban.
"Mae hyn oll yn bosibl trwy Ddeddf Ieithoedd yr Alban, a dderbyniodd gefnogaeth unfrydol gan aelodau Senedd yr Alban.
"Er mwyn cefnogi twf y ddwy iaith, mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi neilltuo £35.7 miliwn ar gyfer cynlluniau ieithyddol."
Yn 2022, roedd ystadegau'r cyfrifiad yn dangos bod gan 130,161 o bobl yn yr Alban rai sgiliau yng Ngaeleg yr Alban, sy'n un o'r ieithoedd Celtaidd.
Roedd hynny'n gynnydd o 43,105 o gymharu â 2011.
O safbwynt yr iaith Albanaidd, neu Sgoteg yn 2022, roedd gan 2,444,659 o bobl yn yr Alban rai sgiliau, sef cynnydd o 515,215 ers 2011.
Mae'r iaith honno yn cynnwys tafodieithoedd Albanaidd sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Doric, Lallams a Sgoteg.