Tân yn achosi difrod sylweddol i Glwb Rygbi Penarth

01/12/2025

Tân yn achosi difrod sylweddol i Glwb Rygbi Penarth

Mae tân wedi achosi difrod sylweddol i Glwb Rygbi Penarth dros nos.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fore Llun ar ran Clybiau Rygbi, Hoci a Chriced Penarth, fe gafodd fideo o dân yn llosgi yn adeilad y clwb ei ryddhau, yn ogystal â lluniau yn dangos y difrod wedi’r tân.

Fe ddywedodd Clwb Penarth Athletic, sydd yn cynrychioli'r timau rygbi, hoci a chriced nad oedd y tân wedi achosi unrhyw anafiadau.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am ragor o fanylion.

Fe ddywedodd datganiad ar ran Clwb Penarth Athletic: "Fe all Clwb Penarth Athletic gadarnhau bod tân wedi achosi difrod sylweddol i’w cyfleusterau yn ystod oriau man bore Llun 1 Rhagfyr. Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb yn sydyn, ac mae’r tân bellach wedi’i ddiffodd yn llwyr.

“Rydym yn falch o adrodd nad oedd unrhyw anafiadau i’n staff nac ymwelwyr o ganlyniad i’r digwyddiad. Diogelwch a lles pawb sydd ynghlwm â’r clwb sydd yn parhau i fod ein prif flaenoriaeth.

"Mae ymchwiliad i achos y tân wedi cychwyn mewn cydweithrediad â’r awdurdodau perthnasol. Rydym wrthi’n asesu difrifoldeb y difrod ac yn datblygu cynllun adfer er mwyn lleihau’r tarfu ar Glwb Rygbi Penarth, Clwb Criced Penarth, Clwb Hoci Menywod Penarth a’r cefnogwyr ac ymwelwyr niferus sydd yn dibynnu ar y cyfleusterau."

Dywedodd cyd-gadeiryddion Clwb Penarth Athletic, Garth Hubback a David Carter: “Rydym yn ddiolchgar dros ben am yr ymateb sydyn gan y gwasanaeth tân ac achub ac am gefnogaeth y gymuned leol ar y cyfnod hwn. Fe fyddwn yn gweithio’n galed i adfer mor fuan â phosib. Yn y cyfamser, fe fyddwn yn darparu rhagor o wybodaeth pan fydd ar gael.”

Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran y clwb rygbi: “Newyddion cwbl dorcalonnus i rannu gyda chi bore ma’ am ein clwb. Rydym mewn sioc gan ei fod yn hwb i’r gymuned i gymaint o bobl o bob oedran.

“Mae gymaint o atgofion wedi’u colli ond yn ffodus, nid oedd unrhyw un wedi eu hanafu.

“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am eu hymateb sydyn a’u hymdrechion.

“Fe fydd Rygbi Penarth, Criced Penarth a Hoci Penarth yn dod at ei gilydd ac fe fyddwn yn ail-adeiladu.”

‘Trasig’

Mae clybiau eraill yn yr ardal wedi cydymdeimlo â’r clwb yn dilyn y tân.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth Clwb Rygbi’r Barri gynnig benthyg eu cyfleusterau i’r clwb dros dro.

“Mae ein meddyliau a chydymdeimladau gyda chwaraewyr, pwyllgor ac aelodau Clwb Rygbi Penarth.

“Yn ystod oriau man y bore ‘ma, mae’r clwb wedi mynd ar dân ac mae’n edrych fel ei fod wedi’i llosgi i’r llawr.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig oherwydd rydym yn gwybod bod hanes ein clybiau i’w gweld ar waliau ein clybiau a chartrefi.

"Mae Clwb Rygbi Penarth yn glwb sydd â hanes enfawr ac rydym yn gobeithio eu bod yn gallu ail-adeiladu ac adfer mor fuan â phosib.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.