'Achub y Nadolig': Dod o hyd i garw oedd wedi ffoi o ddathliadau'r ŵyl
Fe wnaeth carw o Gymru ffoi o ddathliad Nadoligaidd yng Nglannau Merswy brynhawn Sadwrn, gan lansio ymgyrch chwilio sylweddol gan nifer o asiantaethau amdano.
Fe gafodd yr anifail ei ddarganfod yn ddiweddarach ar draeth, cyn iddo gael ei ddychwelyd i'w berchnogion yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Achub y Môr Southport, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Bad Achub Southport, eu bod wedi derbyn galwad am 16:45 ddydd Sadwrn yn gofyn iddynt helpu yn yr ymgyrch chwilio am garw oedd ar goll.
Fe lwyddodd Heddlu Glannau Merswy, a oedd wedi bod yn chwilio am y carw ers nifer o oriau, i leoli'r anifail ar draeth Formby, ond roedden nhw bellach wedi colli golwg ohono.
Roedd y llu yn poeni y byddai'r carw yn gallu bod mewn afon gyfagos, ac fe wnaethon nhw alw ar y bad achub am gymorth.
Llwyddodd Bad Achub Southport i leoli'r anifail gan ddefnyddio ysbienddrych thermol.
Fe wnaethon nhw wedyn ddefnyddio beiciau cwad i arwain yr anifail i dwyni tywod cyfagos.
Fe deithiodd milfeddyg draw, gyda'r bwriad o dawelu'r anifail ac yna ei gael mewn trelar ac yn ôl i'w stabl.
Dywedodd Bad Achub Southport: "Mae'r Nadolig wedi’i achub diolch i waith gwych gan nifer o asiantaethau."