Coffáu chwarel oedd yn gartref i gasgliad celf yn yr Ail Ryfel Byd

Y llechen i goffau chwarel Manod

Mae'r Galeri Cenedlaethol wedi dadorchuddio darn newydd o gelf sydd yn coffáu chwarel yng Ngogledd Cymru lle'r oedd peintiadau o Gymru yn cael eu cadw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae gan y llechen eiriau wedi cerfio arni yn y Gymraeg a Saesneg sydd yn anrhydeddu chwarel Manod yn Eryri.

Mae'n dweud: “Daw’r llechen hon o chwarel Manod yng Ngogledd Cymru lle cafodd paentiadau’r Oriel Genedlaethol eu diogelu yn ystod yr Ail Ryfel Byd”.

Pan ddechreuodd y rhyfel yn 1939 fe symudodd y Galeri Cenedlaethol, sydd yn Llundain, ei chelf i chwarel Manod. Roedd yr holl gasgliad wedi cyrraedd erbyn haf 1941.

Image
Roedd celf yn cael eu cadw yn chwarel Manod yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Cafodd 'byngalos' bach wedi eu gwneud o frics eu hadeiladu yno. Y bwriad oedd amddiffyn y peintiadau rhag amrywiaeth yn y tymheredd a'r lleithder.

Fe gafodd ffrwydron hefyd eu defnyddio er mwyn gwneud y mynediad yn fwy ar gyfer y gwaith celf mwyaf.

Fe wnaeth y celf aros yno nes i'r rhyfel ddod i ben yn 1945. 

Galeri Mostyn yn Llandudno wnaeth gomisiynu'r llechen ac fe gafodd y galeri gefnogaeth gan Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, CELF. Jeremy Deller gafodd y syniad, a John Neilson wnaeth y gwaith cerfio.

Yn ôl cyfarwyddwr y Galeri Cenedlaethol mae'r llechen yn "atgoffa rhywun o'r foment hollbwysig yn ystod y rhyfel pan gafodd peintiadau'r genedl eu cadw yn gyfrinachol mewn ogofau ar fryniau llechi gogledd Cymru er mwyn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."

Bydd Llechen Manod yw gweld yn barhaol yn y Galeri Cenedlaethol. 

Lluniau: GWR/PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.