Siom i Elfyn Evans wrth iddo orffen yn yr ail safle ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd

29/11/2025
Elfyn Evans

Roedd siom i’r Cymro Elfyn Evans wrth iddo orffen yn yr ail safle ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd am y pumed tro.

Y Ffrancwr Sebastien Ogier, 41 oed, oedd yn bencampwr unwaith eto a hynny am y nawfed tro, yn gyfartal gyda record Sébastien Loeb.

Roedd Elfyn Evans, sy'n 36, wedi mynd a mantais o dair pwynt i mewn i rownd derfynol y bencampwriaeth.

Thierry Neuville aeth a’r fuddugoliaeth yn Saudi Arabia, gyda Sebastien Ogier yn y trydydd safle ac Elfyn Evans yn chweched.

Fe gafodd Elfyn Evans 17 o bwyntiau o’r rali ond fe gafodd Sebastien Ogier 24.

Roedd hynny’n golygu bod Sebastien Ogier yn gorffen ar 293 o bwyntiau ac Elfyn Evans ar 189, gyda Kallen Roverpera o’r Ffindir yn y trydydd safle ar 256.

"Roedd yn ddigwyddiad anodd yn amlwg," meddai Elfyn Evans.

"Rydyn ni wedi gwneud yr hyn a allwn ni, dyna ni. Rydyn ni'n gystadleuwyr ar ddiwedd y dydd, rydyn ni bob amser eisiau gwneud yn well, rydyn ni bob amser eisiau mwy."

Dywedodd Sebastien Ogier, 41 oed: "Am dymor, mae hynny'n sicr. Am frwydr gydag Elfyn a Scott, a dweud y gwir.

"Dim ond pan fydd gennych chi wrthwynebwyr gwych y mae pencampwyr yn wych.

"Maen nhw wedi bod yn gryf iawn, gan ein gwthio i'r eithaf hyd at ddiwedd y flwyddyn."

Bydd y cyfan yn dechrau unwaith eto mewn chwe wythnos ym Monte Carlo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.