Dyn o Bowys wedi yfed 11 peint cyn achosi marwolaeth gyrrwr beic modur
Mae dyn o'r canolbarth wedi cael ei garcharu am saith mlynedd am achosi marwolaeth dyn ifanc 17 oed wrth yrru dan ddylanwad alcohol.
Clywodd y llys fod Danny Francis, 29 oed, o'r Trallwng wedi bod allan yn yfed yn drwm gyda'i ffrindiau yn yr Amwythig a'r cyffiniau ar 30 Medi, 2023, cyn iddo achos marwolaeth Benjamin Worrall.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Amwythig ddydd Gwener ar ôl pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol.
Ar y noson dan sylw roedd Francis wedi dechrau yfed mewn tafarn ym Marton ger y Trallwng, lle eisteddodd gyda ffrind ac yfodd beint o seidr.
O'r fan honno, aeth ymlaen i yrru ei Range Rover Sport pum sedd, gyda chymaint â saith o deithwyr ynddo ar un adeg, i wyth tafarn arall tra dan ddylanwad alcohol.
Pan gyrhaeddodd Francis bob lleoliad, parhaodd i yfed mwy o ddiodydd alcoholaidd, gydag un dderbynneb yn dangos ei fod wedi gwario £40 ar 'shots' a £21 ar rownd o ddiodydd eraill.
11 peint
Clywodd y llys ei fod wedi yfed 11 peint o seidr a 'shots' yn ystod y noson.
Roedd y bar olaf yr yfodd Francis ynddo yng nghanol yr Amwythig, 15 milltir i ffwrdd o'r dafarn gyntaf iddo ei gadael.
Tua 23.15, cafodd Francis fwyd cyn mynd i mewn i'w gar i yrru ei hun a'i ffrind adref i'r Trallwng.
Wrth iddo deithio i lawr Ffordd y Trallwng ger Castell Rowton am tua 00.03 y bore, collodd Francis reolaeth ar ei gerbyd wrth geisio osgoi pwll mawr o ddŵr ar y ffordd.
Wrth wneud hynny, aeth i'r ffordd gyferbyn, gan daro dau feic modur oedd yn cael eu gyrru gan Benjamin Worrall a'i ffrind Nathan.
Yna gadawodd cerbyd Francis y ffordd cyn dod i stop mewn gwrych, cyn iddo ef a'i deithiwr adael y lleoliad.
Cymorth cyntaf
Daeth aelodau'r cyhoedd ar draws y gwrthdrawiad a cheisio rhoi cymorth cyntaf i Benjamin a Nathan.
Er gwaethaf ymdrechion pobl i achub Benjamin, bu farw yn y fan a'r lle. Dioddefodd Nathan anafiadau a newidiodd ei fywyd a chafodd ei gludo i'r ysbyty.
Tra roedd y gwasanaethau brys yn lleoliad y gwrthdrawiad, fe ffoniodd Francis ei gariad o gae cyfagos gan ofyn am lifft. Cafodd ei ddarganfod mewn tŷ yn Knockin gan swyddogion yr heddlu am 06:00 yr un diwrnod a'i arestio.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener i saith mlynedd o garchar am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, a dwy flynedd am achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Bydd y ddwy ddedfryd yn cyd-redeg.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 11 o flynyddoedd.

