Cyhuddo dyn o Ferthyr wedi marwolaeth gyrrwr beic cwad 20 oed

Ethan Powell

Mae dyn o Ferthyr wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau yn dilyn marwolaeth gyrrwr beic cwad 20 oed wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A465.

Bu farw Ethan Powell o Frynmawr yn y fan a’r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar 31 Mai eleni. 

Cafodd y beic cwad ei ddarganfod gan swyddogion yr heddlu ar y ffordd rhwng Rhymni a Dowlais am tua 04.50 y bore. 

Mae dyn 41 oed o Ferthyr Tudful bellach wedi cael ei gyhuddo o sawl trosedd, gan gynnwys achosi marwolaeth trwy yrru cerbyd pan nad oedd ganddo drwydded/yswiriant, gwyrdroi cwrs cyfiawnder a pheidio â stopio ar ôl gwrthdrawiad. 

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys ym mis Ionawr. 

Mae pedwar dyn - 34, 37, 42, a 45 oed o Ferthyr Tudful – a dyn 44 oed o Flaenau Gwent, a gafodd eu harestio’n flaenorol ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr, wedi cael eu rhyddhau. 

Llun o Ethan Powell gan Heddlu Gwent

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.