Chwilio am ddyn o Brydain a syrthiodd oddi ar fwrdd llong ger Tenerife
Mae'r awdurdodau yn Sbaen yn chwilio am ddyn o Brydain a syrthiodd oddi ar fwrdd llong oddi ar arfordir Tenerife.
Dywedodd gwylwyr arfordir Sbaen eu bod wedi bod yn cynorthwyo'r awdurdodau i ddod o hyd i'r dyn 76 oed ers 09.48 amser lleol ddydd Iau.
Y gred yw bod y dyn wedi syrthio oddi ar y Marella Explorer 2 tra'r oedd y llong wedi'i lleoli ychydig i'r gogledd-orllewin o Tenerife.
Dywedodd Marella Cruises, sy'n cael eu cynnal gan gwmni gwyliau TUI, eu bod yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau yn Sbaen.
"Rydym yn drist iawn i gadarnhau bod gwestai wedi cael ei weld yn mynd i mewn i'r dŵr tra roedd y llong ar ei thaith i La Gomera. Mae ein meddyliau gyda'r unigolyn a'u hanwyliaid yn ystod yr amser anodd yma," meddai'r cwmni.
"Mae ein tîm gofal ymroddedig yn cefnogi'r teulu, gan ddarparu cymorth a chysur.
"Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a byddwn yn parhau i gynnig pob cymorth posibl."
Dywedodd gwylwyr y glannau fod y llong wedi cymryd rhan yn y chwilio cyn docio yn Santa Cruz de Tenerife yn oriau mân fore Gwener.
Mae adroddiadau yn y cyfryngau lleol yn dweud bod y llong ar ei ffordd i'r Ynysoedd Dedwydd o Madeira ym Mhortiwgal pan syrthiodd y dyn oddi arno.
Mae llong y Marella Explorer 2, sydd wedi'i chofrestru ym Malta, yn dal hyd at 1,814 o deithwyr ar draws ei 14 dec a 907 o gabanau, yn ôl gwefan TUI.
Llun: Llong y Marella Explorer 2 gan Quintin Soloviev / Wikimedia