Un ystlum yn atal gwaith ar gapel 200 oed am dros flwyddyn

28/11/2025
Un ystlum

Mae un ystlum wedi oedi cynlluniau i drawsnewid capel 200 oed yn fflatiau ers mis Hydref y llynedd.

Mae datblygwyr yn gobeithio troi Capel y Bedyddwyr Pisgah yng Nhalywain, Torfaen yn chwech o fflatiau.

Gwrthodwyd y cais yn wreiddiol ym mis Hydref 2024 gan nad oedd y datblygwr wedi cyflwyno arolwg ystlumod, ac fe gafodd y penderfyniad ei gadarnhau wrth i’r datblygwyr apelio.

Yna cyflwynodd yr ymgeisydd, Beth Jones o Ffordd Wainfelin, Pont-y-pŵl, gais cynllunio newydd ym mis Mehefin eleni ynghyd ag arolwg ystlumod a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Ond fe wnaeth arolwg ddarganfod bod y capel yn gartref i un ystlum a roedd rhaid gwneud cais arbennig i Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhywogaeth yn mwynhau'r lefel uchaf o ddiogelwch o dan gyfraith y DU ac Ewrop.

Mae’r cynlluniau bellach, flwyddyn yn ddiweddarach, wedi cael sêl bendith i fwrw ymlaen.

Dywedodd swyddog cynllunio Torfaen, Tom Braithwaite, yn ei adroddiad wrth gymeradwyo y cais bod yr arolwg wedi dangos bod “un ystlum bach cyffredin yn dod allan o dalcen gogledd-orllewinol yr estyniad presennol.

“Felly, mae’r cynnig hwn yn effeithio ar adeilad lle mae ystlumod yn bresennol ac felly gan fod ystlumod wedi’u gwarchod o dan ddeddfwriaeth ddomestig ac Ewropeaidd, roedd angen trwydded i symud yr ystlumod."

Atgyweiriadau

Derbyniwyd tri gwrthwynebiad i'r cynlluniau gan y cyngor, gan gynnwys deiseb a lofnodwyd gan 20 o drigolion o Ffordd Pisgah a Clôs Pisgah, ond dywedodd Mr Braithwaite fod y pryderon naill ai wedi'u trafod yn y cais neu nad oeddent yn berthnasol i'r broses gynllunio.

Roedd y rheini'n cynnwys cwynion y gallai'r datblygiad arwain at barcio ar draws dreifiau preifat, tra dywedodd Mr Braithwaite ei bod yn annhebygol y bydd goleuadau ychwanegol yn effeithio ar gartrefi presennol ar Glôs Pisgah sydd 40 metr o'r eiddo.

Dywedodd ei adroddiad, gan fod hen adeilad yr Ysgol Sul eisoes wedi'i drawsnewid yn eiddo preswyl, yn 2015, a bod defnydd presennol ar gyfer yr adeilad, nad yw'r cais yn golygu newid "sylweddol" i Ffordd Pisgah.

Cynhaliodd Eglwys Bedyddwyr Pisgah eu bedydd cyntaf ym 1827.

Bu’n rhaid i’r gynulleidfa adael ym mis Mehefin 2019 ar ôl i’r adeilad gael ei ystyried yn anniogel, ac y byddai angen i aelodau godi hyd at £60,000 ar gyfer atgyweiriadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.