Carchar i ddyn 70 o Borthcawl am gyflenwi cocên

27/11/2025
Thomas Hughes

Mae dyn 70 oed o Borthcawl wedi ei garcharu am chwe blynedd ar ôl pledio’n euog i droseddau cyffuriau yn ymwneud â chyflenwi cocên.

Cafodd Thomas Hughes o Park Avenue, Porthcawl, ei arestio ar 28 Medi eleni, ar ôl i swyddogion Heddlu’r De weithredu ar warant yn ei gartref.

Ar ôl cynnal chwiliad o’r eiddo, fe ddaeth swyddogion o hyd i 472 gram o gocên, werth rhwng £13,500 a £15,000. Cafodd gwerth £29,203 o arian parod hefyd ei ganfod yn yr eiddo, gan awgrymu gweithgaredd troseddol a chyflenwi cyffuriau, yn ôl y llu.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ar 7 Tachwedd, fe wnaeth Hughes bledio’n euog i fod â chyffur dosbarth A yn ei feddiant, sef cocên, gyda’r bwriad o’i gyflenwi, yn ogystal â bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.

Fe gafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar mewn gwrandawiad ddydd Iau.

Dywedodd y Cwnstabl Rhodri Wilson o dîm Trosedd Cyfundrefnol y llu: “Mae’r achos hwn yn amlygu ein hymrwymiad i fynd i afael â throseddau yn ymwneud â chyffuriau, gan sicrhau bod y rhai sy’n ceisio elwa o weithgareddau anghyfreithlon yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd.

"Byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i wneud ein cymunedau’n fwy diogel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.