Carcharu dyn o Lerpwl am gyflenwi cyffuriau yng ngogledd Cymru
Mae dyn o Lerpwl wedi ei garcharu yn dilyn ymchwiliad i gyflenwad heroin a chrac cocên yng Ngogledd Cymru
Cafodd Christopher Inglesby, 38 oed, ei ddedfrydu i bum mlynedd a hanner yn y carchar yn Llys y Goron Lerpwl.
Roedd ‘Operation Toxic’ yn edrych ar lwybrau dosbarthu cyffuriau ‘County Lines’, oedd yn gweithredu o Lannau Mersi i mewn i Fae Colwyn.
Fe wnaeth yr heddlu enwi Inglesby, o ardal Clubmoor yn Lerpwl, fel arweinydd y grŵp a gafodd ei gyhuddo o fod yn rhan o ddosbarthu crac cocên a heroin a thorri Gorchymyn Atal Troseddau Difrifol.
Dwedodd Ditectif Sarsiant Shaun McNee o Operation Toxic:
“Fe wnaeth ei hymchwiliadau nôl ym mis Medi ddarganfod yn gyflym mai Ingelsby oedd wrth lyw'r gweithredoedd hyn, yn cyflenwi crac cocên a heroin ym Mae Colwyn. Mae’r gweithredoedd yma wedi dod i ben ac mae Inglesby nawr wedi ei garcharu.
“Mae troseddau cyfundrefnol yn niweidiol iawn i’n cymunedau, yn aml yn ymwneud a bygythiadau, trais a chreu amgylchedd o ofn. Y troseddwyr yma sydd yn rhedeg gweithredoedd County Lines.”