Talu 24% yn fwy i ddenu mwy o yrwyr

Talu 24% yn fwy i ddenu mwy o yrwyr
Mae prinder gyrwyr wedi arwain at gwmni bwyd, Castell Howell i godi cyflogau eu staff.
Yn ôl Nigel Williams, Cyfarwyddwr Cyllid cwmni Castell Howell doedd dim dewis gan y cwmni ond talu 24% yn fwy i'w gyrwyr er mwyn cadw eu gweithlu a denu rhagor o weithwyr.
"Mae e'n clymu lan gyda'r pandemig, mae e'n clymu lan gyda Brexit hefyd," meddai Mr Williams wrth Newyddion S4C.
"Ni di gorfod talu hyd at 24% yn fwy i'n gyrwyr ni.
"Ma' di bod yn anodd recriwtio mewn cyfnod ble ma' galw mawr am y math 'na o swyddi so ni wedi gorfod talu fwy er mwyn cadw ac er mwyn denu rhagor o yrwyr i mewn i'r cwmni."
Mae cyflenwyr bwyd wedi rhybuddio y gallai bylchau fod ar silffoedd archfarchnadoedd am sawl mis.
Nid Castell Howell yw’r unig gwmni i ddweud bod rhai bwydydd yn brin – mae cwmni Nandos eisoes wedi gorfod cau dros 40 o'u bwytai.
"Ma' problemau arbennig gyda bara falle yn ein sector ni ar y funud, ond yn benodol o'n i'n clywed wythnos diwethaf o’dd problemau gyda rhai cadwyni bwytai o ran cig ffowlyn", ychwanegodd Mr Williams.
Mae Llywodraeth Prydain yn dweud eu bod wrthi'n cyflymu'r broses o drwyddedu gyrwyr a chynnal profion gyrru.