Newyddion S4C

Aled Sion Davies yn targedu medal aur arall

Newyddion S4C 23/08/2021

Aled Sion Davies yn targedu medal aur arall

Ar ôl ennill medal aur yng ngemau Paralympaidd Llundain a Rio am daflu pwysau, mae Aled Sion Davies yn targedu medal arall yn Tokyo eleni.

 Ond mae'r Cymro yn cydnabod iddo danberfformio yn ddiweddar.

 "Pencampwriaeth Ewropeaidd yng Ngwlad Pwyl oedd yr ail gystadleuaeth i mi yn y ddwy flynedd ddiwethaf felly o fi ddim ar fy ngorau,” meddai wrth Newyddion S4C.

 "Ma' shwt gymaint wedi newid nawr, dim torf, mae'r gystadleuaeth yn wahanol, felly doeddwn ddim yn gwybod beth i ddisgwyl ac wedi anghofio beth sydd angen i fi wneud i gystadlu ar y llwyfan enfawr.

 "Fi'n falch bo fi di dod nôl, bo fi di ennill teitl arall, odd yn neis i weld pobl fi'n mynd i fod yn cystadlu yn erbyn hefyd yn Tokyo. 

 "Ond hefyd mae angen i fi cystadlu, mae angen i fi fod a fwy o hyder.

 "Dwi'n gwybod fydda i'n taflu'n bellach achos fi di bod yn ymarfer am yr 18 mis diwethaf.

 "Fi'n barod i daflu'n bell, fi'n barod i torri records, ond fi jyst yn mynd i cymryd un dydd ar y tro, paratoi nawr a gobeithio pan i fi yn Tokyo fi'n gallu dod nôl â'r lliw gorau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.