Biliau ynni i gynyddu eto wrth i dymereddau ostwng

Bil ynni (PA)

Mae disgwyl i filiynau o gartrefi weld cynnydd yn eu biliau nwy a thrydan ym mis Ionawr wedi i'r rheoleiddiwr Ofgem gyhoeddi'r cap ynni nesaf.

Dywedodd y rheoleiddiwr y bydd y cynnydd yn golygu y bydd bil ar gyfartaledd i bob aelwyd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn cynyddu o £1,755 i £1,758 y flwyddyn, sydd yn gynnydd o 0.2%.

Er y cynnydd, fe fydd prisiau ychydig yn is na'r un cyfnod y llynedd.

Mae'r cap yn cyfyngu ar faint y mae bob cartref ar gyfartaledd yn ei dalu am nwy a thrydan.

Dywedodd Tim Jarvis, cyfarwyddwr cyffredinol marchnadoedd Ofgem: "Er bod prisiau ynni wedi gostwng mewn termau real dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni’n gwybod nad yw pobl o bosib yn teimlo hynny yn eu pocedi.

"Mae'r cap yn helpu i amddiffyn cartrefi rhag gor-dalu am ynni. Ond dim ond rhwyd ddiogelwch ydi hi ac mae yna ffyrdd ymarferol y gall cwsmeriaid dalu llai am eu hynni."

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.