Rhybudd melyn am rew i rannau o Gymru

Rhybudd rhew 21/11

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau o Gymru fore Gwener. 

Mae'r rhybudd wedi bod mewn grym ers 00:00 ac fe fydd yn parhau tan 11:00 fore Gwener. 

Mae'rrhybudd yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.

Fe allai palmentydd, llwybrau cerdded a llwybrau seiclo fod yn llithrig - ac mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai pobl dioddef anafiadau os nad ydynt yn ofalus.

Daw hyn wedi i nifer o ysgolion gael eu cau yn ne-orllewin Cymru ddydd Iau wedi i eira syrthio dros nos. 

Roedd rhybudd melyn am eira mewn grym yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe drwy’r dydd ddydd Iau.

Roedd rhybudd melyn am rew ac eira hefyd mewn grym mewn mannau yng ngogledd a de-orllewin Cymru nos Iau.

Roedd y rhybudd mewn grym tan hanner nos nos Iau ac roedd yn effeithio ar Wynedd, Sir Fôn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Benfro ac Abertawe.

Yn Sir Benfro mae rhai ysgolion yn parhau i fod ar gau yn dilyn y tarfu fu ddydd Iau o achos yr eira.

Yn ôl cyngor y sir mae'r ysgolion canlynol ar gau ddydd Gwener:

  • Ysgol Portfield - Hwlffordd
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-mael
  • Ysgol Clydau - Tegryn
  • Ysgol Gymunedol Brynconin - Llandysilio
  • Ysgol Gymunedol Maenclochog
  • Ysgol Gymunedol Gynradd Eglwyswrw
  • Ysgol Llanychllwydog Cwm Gwaun
  • Ysgol Bro Preseli

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.