Rhybudd melyn am rew ac eira mewn rhannau o Gymru nos Iau
Mae rhybudd melyn am rew ac eira mewn mannau yng ngogledd a de-orllewin Cymru nos Iau.
Mae'r rhybudd mewn grym tan hanner nos wedi i eira syrthio mewn sawl ardal o'r wlad nos Fercher.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar Wynedd, Sir Fôn, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Benfro ac Abertawe.
Yn ne-orllewin Cymru mae rhybuddion am amodau gyrru "hynod o wael" a nifer o ysgolion ar gau wedi i eira syrthio nos Fercher.
Dywedodd Cyngor Sir Benfro bod rhannau o orllewin y sir wedi gweld "eira trwm" a'u bod nhw'n canolbwyntio ar ail-agor y ffyrdd, gyda ffyrdd oedd heb eu trin yn "beryglus".
Mae eira hefyd wedi syrthio yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin a de Sir Ceredigion.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai'r eira "arwain at oedi a gwneud amodau gyrru'n beryglus" gan rybuddio pobl i wirio cyn teithio.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd am rew dydd Gwener, o hanner nos tan 11.00.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro.
Fe allai palmentydd, llwybrau cerdded a llwybrau seiclo fod yn llithrig - ac mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai pobl dioddef anafiadau os nad ydynt yn ofalus.