Gwasanaeth Achub Mynydd yn rhybuddio am beryglon yr Wyddfa
Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi gweld penwythnos prysur ar fynyddoedd Eryri.
Roedd y tywydd garw wedi achosi amgylchiadau llithrig ddydd Sadwrn, gydag achubwyr Llanberis wedi cael eu galw allan deirgwaith i gynorthwyo.
Cafodd y gwasanaeth eu galw ar ôl i ddyn ddisgyn “cryn bellter” ar ochr ddwyreiniol y Grib Goch, gyda’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau hefyd wedi cynorthwyo.
Yn ôl y gwasanaeth achub, roedd yr unigolyn yma yn “eithriadol o lwcus”.
Roedd y tîm wedi cael eu galw eto i helpu unigolyn ar y Grib Goch, ac eto i’r Wyddfa ddydd Sadwrn.
Mae’r tîm wedi rhybuddio pobl i beidio mentro ar y Grib Goch mewn tywydd gwael.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Tîm Achub Mynydd Llanberis: “Nid yw’r Grib Goch yn cael ei argymell mewn tywydd gwael.
“Mae’r graig yn sgleinio, seimllyd a llithrig pan mae’n wlyb ac yn cynyddu’r siawns o gwympo yn fawr… gall slip bach neu fagliad arwain at ddamwain ddifrifol iawn.”
Llun: Tîm Achub Mynydd Llanberis