Tair merch o Wynedd yn actio am y tro cyntaf mewn cyfres deledu newydd

STAD

Mae tair o ferched ysgol wedi cael y cyfle i actio am y tro cyntaf ar y teledu yng nghyfres ddrama newydd STAD ar S4C.

Doedd Moli Fflur Thomas o Benygroes, Erain Jên o Dremadog, ac Elsi Leung-Jones o Lanrug erioed wedi actio mewn cyfres deledu o'r blaen.

Ond fe gafon nhw'r cyfle ar ôl clyweliadau llwyddiannus.

Mae Moli, Erain ac Elsi yn actio rhan tri o blant y cymeriad Tracey Fish a Chips, sy’n cael ei chwarae gan yr actores Manon Wilkinson.

Mae'r tair a'u bryd ar ddilyn gyrfa actio yn y dyfodol.

Cyfres ddrama sy'n dilyn helyntion teulu’r Gurkhas a’u cymdogion ar y stad – pobl sy’n wynebu heriau bywyd ond sy’n gwneud popeth o fewn eu gallu i oroesi - yw STAD.

Cafodd y gyfres ei dangos gyntaf yn 2022 ac mae'n ddilyniant i'r gyfres boblogaidd Tipyn o Stad ddaeth i ben yn 2008.

'Star struck' 

Mae'r profiad wedi gwneud i Moli Fflur sy'n 15 oed "syrthio mewn cariad" gydag actio. Mae'n chwarae rhan ‘Dionne Fish a Chips’ yn y gyfres.

"Roedd yn dipyn o sypreis i glywed ‘mod i wedi cael y rhan achos do’n i erioed wedi cael gwersi actio.

"Dwi’n dawnsio, felly dwi wedi arfer perfformio, ond dwi ‘di syrthio mewn cariad efo actio erbyn hyn. Dwi yn fy mlwyddyn ola’ yn yr ysgol rŵan a dwi’n mynd i astudio Performing Arts yn coleg blwyddyn nesaf. Dwi ishio mynd ag actio ymhellach," meddai.

Roedd cael clywed bod hi wedi cael y rhan yn sioc i Erain Jên sy'n 12 oed. 

“Ro’n i braidd yn star struck pan nes i ddechrau ar y gwaith actio mae’n rhaid fi ddeud, ond mae’r actorion wedi’n ysbrydoli i, ac mae ‘di rhoi syniad i mi o be’ ‘swn i’n licio ‘neud nesa’ rŵan.

“Cwrdd â’r bobl wnes i fwynhau fwyaf. Roedd ‘na lot o droeon trwstan a phethau doniol ‘di digwydd. Roedden ni’n ffilmio golygfa lle ro’n i’n gorfod bwyta brechdanau, ac roedden ni di gorfod ail-ffilmio’r olygfa ‘na tua deg o weithiau; ro’n i mor llawn ac yn teimlo ‘chydig yn sâl erbyn y diwedd!”

Mae Elsi Leung-Jones sy'n naw oed wedi cael profiad actio ar lwyfan trwy glwb drama Ragarug yn Llanrug yn y gorffennol. Fe wnaeth hi fwynhau'r cyfeillgarwch ar y set meddai.

“Ges i lot o hwyl a wnes i wneud ffrindiau newydd gwych ar y set. Mae’r dair ohonan ni oedd yn chwarae’r rhan chwiorydd yn dal mewn cysylltiad. Baswn i wrth fy modd yn bod yn actores yn y dyfodol - efallai mewn ffilm!”

Mae STAD ar S4C bob nos Sul am 21.00, ac mae bocset o’r gyfres gyfan ar gael i’w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. 


 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.