Y BBC yn ymddiheuro i'r Arlywydd Trump
Mae'r BBC wedi ymddiheuro i Arlywydd America, Donald Trump am bennod o'r gyfres materion cyfoes, Panorama a oedd yn cynnwys addasiad o rannau o araith wnaeth yr Arlywydd ar 6 Ionawr 2021, ond mae'r gorfforaeth wedi gwrthod cais Trump am iawndal.
Dywedodd y gorfforaeth fod y golygiad wedi rhoi'r "argraff anghywir bod yr Arlywydd Trump wedi gwneud galwad uniongyrchol am weithredu treisgar," gan hefyd gadarnhau na fydd y bennod fyth yn cael ei darlledu eto.
Mae cyfreithwyr Trump wedi bygwth siwio'r BBC am $1bn (£759m) mewn iawndal oni bai bod y gorfforaeth yn tynnu'r honiad yn ôl, yn ymddiheuro ac yn ei ddigolledu.
Arweiniodd canlyniadau'r sgandal at ymddiswyddiadau cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, a phennaeth newyddion y gorfforaeth Deborah Turness ddydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Rydym yn derbyn bod ein cynnwys wedi creu'r argraff yn anfwriadol ein bod yn dangos un rhan o'r araith, yn hytrach na dyfyniadau o wahanol bwyntiau yn yr araith, a bod hyn wedi rhoi'r argraff anghywir bod yr Arlywydd Trump wedi gwneud galwad uniongyrchol am weithredu treisgar," meddai.
Mae'r llefarydd ar ran y BBC hefyd wedi cadarnhau fod cyfreithwyr y darlledwr cyhoeddus wedi ysgrifennu at dîm cyfreithiol yr Arlywydd Trump mewn ymateb i lythyr a dderbyniwyd ddydd Sul.
"Mae cadeirydd y BBC, Samir Shah, hefyd wedi anfon llythyr personol ar wahân at y Tŷ Gwyn yn ei gwneud hi'n glir i'r Arlywydd Trump ei fod ef a'r gorfforaeth yn ymddiheuro am olygu araith yr arlywydd ar 6 Ionawr 2021, a oedd yn rhan o'r rhaglen," ychwanegodd y llefarydd.
