Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ar ôl marwolaeth merch 17 oed

cefn fforest.jpg

Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi i ferch 17 oed gael ei darganfod yn farw mewn eiddo yng Nghefn Fforest yng Nghaerffili.

Mae dyn 18 oed o Drecelyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio, ac mae'n parhau yn y ddalfa. 

Fe wnaeth swyddogion, gan gynnwys swyddogion arfog, fynd i'r eiddo yn Wheatley Place am tua 07:15 fore Iau wedi adroddiadau fod dau o bobl wedi dioddef anafiadau difrifol. 

Roedd gweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn bresennol. 

Bu farw merch 17 oed o Gefn Fforest yn y fan a'r lle. Mae ei theulu wedi cael gwybod ac fe fyddan nhw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol drwy gydol yr ymchwiliad, meddai'r heddlu.

Mae dynes 38 oed, hefyd o Gefn Fforest, yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth. 

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Philip O'Connell: "Gallwn gadarnhau nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn ar ôl gwneud yr arestiad yma yn gynharach.

"Rydym yn deall y gall adroddiadau o’r natur yma fod yn bryderus, ac mae’n debygol y bydd trigolion yn gweld nifer cynyddol o swyddogion yn yr ardal tra byddwn yn cynnal ymholiadau pellach."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500361653.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.