Heddlu'r De i ddefnyddio faniau adnabod wynebau newydd

camerau adnabod wyneb.jpg

Mae Heddlu'r De yn un o saith llu heddlu ar draws y DU a fydd yn defnyddio faniau adnabod wyneb newydd mewn rhaglen beilot ehangach. 

Mae Heddlu'r De, Heddlu'r Met a Heddlu Essex wedi bod yn defnyddio'r faniau adnabod wyneb ers peth amser, ac mae'r ymateb wedi bod yn gymysg. 

Mae'r feddalwedd yn caniatáu swyddogion i ddefnyddio camerâu ar ben eu faniau i ddod o hyd i bobl sydd ar eu rhestrau o droseddwyr posib drwy ffilmio'r ardal gyfagos.

Fe wnaeth grwpiau gwrth-hiliaeth feirniadu'r feddalwedd am gael "hanes sydd wedi’i ddogfennu’n dda o ganlyniadau anghywir a rhagfarn hiliol” cyn Carnifal Notting Hill eleni.

Wrth ymateb, fe wnaeth Comisiynydd Heddlu'r Met Syr Mark Rowley gydnabod fod y feddalwedd yn "gyfyngedig" pan y cafodd ei defnyddio yn y Carnifal yn 2016 a 2017, ond mae wedi gwneud "cynnydd sylweddol" ers hynny. 

Mae'r rhestrau'r heddlu sy'n cael eu huwchlwytho i'r fan yn bwrpasol ac fe fydd yn cynnwys manylion a lluniau o bobl y mae'r heddlu yn chwilio amdanyn nhw a phobl sy'n destun gorchmynion llys fel troseddwyr rhyw.

Os ydy eu hwynebau yn cael eu sganio gan gamerâu'r fan, fe fydd swyddog yn cael gwybod ac fe fyddan nhw'n gallu gwirio os ydy'r gymhariaeth yn un cywir.

Mae'r heddlu wedi dweud y bydd lluniau o bobl sydd yn cerdded heibio'r fan a sydd ddim yn arwain at rybudd yn cael eu dileu mewn llai nag eiliad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.