Sir Gâr: Galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried effaith prosiectau ynni gwyrdd

Pylon

Mae cynghorwyr Sir Gâr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i leihau pryderon y cyhoedd am brosiectau gwynt a solar ar raddfa fawr yn y sir.

Dywedodd un cynghorydd bod y prosiectau ynni yn “difwyno” y sir yn weledol.

Roedd y cynnig gan gynghorwyr Plaid Cymru Sir Gâr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yr effaith ar y gymuned leol cyn derbyn unrhyw geisiadau pellach ar gyfer datblygiadau ‘o arwyddocâd cenedlaethol’.

Mae datblygiadau cenedlaethol o’r fath, oherwydd eu maint, yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru.

Roedd angen ystyried effaith y datblygiadau ar seilwaith ynni y sir, ymrwymo i gladdu ceblau newydd o dan y ddaear, yn dangos sut y gallai pobl leol elwa ar y trydan a gynhyrchir, meddai’r cynnig.

Ond roedd y cynnig yn cytuno â Llywodraeth Cymru y dylid cynhyrchu cymaint o drydan adnewyddadwy â phosibl a oedd o fudd uniongyrchol i drigolion lleol. 

Cafodd ail gynnig gan gynghorwyr Reform UK yn galw am oedi o 12 mis ar bob cais newydd am ffermydd gwynt, solar a pheilonau ac am gynnal asesiad effaith gronnus ei drechu gan gynghorwyr.

Image
Brechfa
Tyrbinau gwynt coedwig Brechfa. Llun gan Alun Lenny.

'Oedi cynnydd'

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i 100% o drydan Cymru ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 i leihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cynhesu'r blaned. 

Mae gan Sir Gaerfyrddin ffermydd gwynt a solar gweithredol ac eraill ar y gweill. 

Bydd milltiroedd o beilonau yn cael eu codi drwy gefn gwlad y sir fel rhan o gynllun Green GEN Cymru sydd wedi profi’n ddadleuol yn lleol, gyda nifer o dirfeddianwyr wedi gwrthwynebu.

Wrth gyflwyno'r cynnig cyntaf, dywedodd y cynghorydd Handel Davies fod angen "neges drawsbleidiol glir" nad oedd yn dderbyniol “difwyno” y sir yn weledol o ganlyniad i godi peilonau. 

Nid oedd, meddai, yn gwrthwynebu ynni gwyrdd. "Gadewch i ni gefnogi ynni adnewyddadwy, ond gadewch i ni ei wneud yn y ffordd gywir,” meddai.

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid Lafur, y Cynghorydd Deryk Cundy, fod yn rhaid amddiffyn tir fferm cynhyrchiol ond “na fydd cynhesu byd-eang yn aros am unrhyw un”. 

Dywedodd bod gweinyddiaeth dan arweiniad y Blaid, a oedd wedi datgan argyfwng hinsawdd, yn cyflwyno cynnig a fyddai, meddai, yn atal cynnydd ynni glân. 

“Byddai oedi cynnydd nawr yn niweidio hyder buddsoddwyr, yn gohirio cwrdd â thargedau sero net, gan arafu’r union drawsnewidiad sydd ei angen arnom ar frys,” meddai.

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae effaith cynlluniau yn cael ei hystyried gan Bwyllgor Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a gweinidogion fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau.

“Mae gan awdurdodau cynllunio lleol hefyd y cyfle i godi pryderon fel rhan o'u hadroddiad effaith leol.”

Ychwanegodd: “Byddai'n amhriodol i ni wneud sylwadau ar gynigion cynllunio penodol oherwydd rôl gweinidogion Cymru yn y broses.”

Llun: Peilonau ger Llannon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.