Cynhadledd chwaraeon i ferched ifanc ‘yn fwy amserol nag erioed’
Mae cynhadledd chwaraeon ieuenctid mwyaf Cymru i ferched a fydd yn denu 250 i Gaerdydd ddydd Iau yn “fwy amserol gan erioed” meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru mai’r gobaith wrth gynnal cynhadledd #FelMerch oedd cefnogi a grymuso merched i ffynnu drwy gyfrwng chwaraeon.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Rhian Wilkinson, Prif Hyfforddwraig Tîm Pêl-droed Cymru, Rosie Eccles, y bocsiwr amatur o Gasnewydd a enillodd fedal aur yng Ngemau’r Gymanwlad 2022, a’r nofwraig Ela Letton-Jones o’r Felinheli sydd newydd ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Nofio Para'r Byd yn Singapore.
Daw'r gynhadledd wrth i adroddiad diweddar gan Public First ar ferched ym myd chwaraeon yn datgan fod bechgyn rhwng 11-18 oed yn treulio 1.4 awr yn fwy bob wythnos yn cymryd rhan mewn chwaraeon na merched o’r un oedran.
Mae hynny’n sydd gyfystyr â rhoi bob merch ‘ar y fainc’ mewn 52 o gemau pêl-droed y flwyddyn, medden nhw.
Dywedodd Siân Lewis bod hynny’n dangos pwysigrwydd y gynhadledd.
“Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched ledled y wlad ar ôl cyrraedd Pencampwriaeth Ewro Merched 2025, sy’n gwneud Cynhadledd #FelMerch eleni yn fwy amserol a phwerus nag erioed,” meddai Siân Lewis.
“Ond er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol o fewn chwaraeon merched dros y blynyddoedd diwethaf, mae dipyn o ffordd eto i fynd cyn fod chwarae teg i bawb ym myd chwaraeon.”
‘Rhannu fy stori’
Yn ogystal â’r siaradwyr gwadd, cynhelir gweithdai ymarferol ar bynciau amrywiol gan gynnwys anafiadau chwaraeon, bocsio a calisthenics.
Dywedodd un o’r cyfranwyr, Mia Lloyd, athletwraig para Tîm Cymru 18 oed o Aberteifi, ei bod hi’n edrych ymlaen at “rannu ei stori” yn y gynhadledd.
“Yn 10 oed ges i ddiagnosis o ganser, ac o ganlyniad collais fy nghoes,” meddai.
“Wrth edrych yn ôl, dyma oedd y canlyniad gorau i fi achos roeddwn yn awyddus i ddychwelyd i chwaraeon mor fuan â phosib ar ôl y driniaeth.
“Dwi’n mwynhau pob math o chwaraeon, o athletau, pêl-fasged cadair olwyn i nofio, golff, dringo a mwy.
“Dwi’n edrych ymlaen at rannu fy stori, i ddangos i ferched ifanc Cymru fod gymaint yn bosib drwy’r chwaraeon a pha mor bwysig yw hi i ddal ati ac i gymryd pob cyfle mewn bywyd.”
Dyma drydedd Gynhadledd #FelMerch yr Urdd, ac fe’i noddir gan Lywodraeth Cymru trwy gronfa Euro 2025.
Cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf yng Ngwersyll yr Urdd, Caerdydd yn 2021.
Llun: Urdd Gobaith Cymru.
