Disgwyl pleidlais yr wythnos nesaf ar gyhoeddi dogfennau Jeffrey Epstein
Mae disgwyl i Gyngres yr Unol Daleithiau bleidleisio yr wythnos nesaf ar orfodi’r llywodraeth i gyhoeddi dogfennau sy’n gysylltiedig â’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.
Dywedodd Mike Johnson, llefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau, ddydd Mercher, y byddai’n cyflwyno’r mesur sy’n gorfodi cyhoeddi’r ffeiliau ar lawr y Tŷ yr wythnos nesaf.
Daw hyn ar ôl i 218 o aelodau Tŷ’r Cynrychiolwyr lofnodi deiseb yn galw am bleidlais ar y pwnc.
“Rydyn ni’n mynd i gyflwyno hynny ar lawr y Tŷ ar gyfer pleidlais lawn yr wythnos nesaf, cyn gynted ag y byddwn ni’n dychwelyd,” meddai Mike Johnson wrth ohebwyr.
Hyd yn oed os bydd y mesur yn cael mwyafrif yn y Tŷ, mae angen iddo fynd drwy’r Senedd a chael ei lofnodi gan yr Arlywydd Trump.
Mae Trump wedi condemnio’r ymdrech fel “twyll Democrataidd”.
'Naratif ffug'
Daw’r cam yr un diwrnod â chyhoeddi e-byst gan Jeffrey Epstein sy’n crybwyll Donald Trump.
Fe’u cyhoeddwyd ddydd Mercher gan wleidyddion Democrataidd ar un o bwyllgorau Tŷ’r Cynrychiolwyr.
Roedd yr e-byst rhwng Jeffrey Epstein a’i gyfaill Ghislaine Maxwell — a gafodd ei dedfrydu i 20 mlynedd o garchar yn 2022 am fasnachu pobl ar gyfer rhyw — a’r awdur Michael Wolff, wedi’u hanfon dros gyfnod o wyth mlynedd.
Mae’r e-byst gan Jeffrey Epstein, a fu farw o ganlyniad i hunanladdiad yn y carchar yn 2019, yn honni bod Trump “yn gwybod am y merched, ac wedi gofyn i Ghislaine stopio”.
Dywedodd Ysgrifennydd y Wasg yn y Tŷ Gwyn, Karoline Leavitt, mai ymgais gan y Democratiaid ydyw i “greu naratif ffug i danseilio’r Arlywydd Trump”.
Nid oedd yr Arlywydd Trump wedi derbyn nac anfon yr un o’r negeseuon, a oedd yn dyddio’n bennaf i’r cyfnod cyn iddo fod yn arlywydd.
Nid yw Donald Trump wedi cael ei gyhuddo o unrhyw gamwedd troseddol mewn cysylltiad ag Epstein na Maxwell.
