Dyn yn pledio'n euog i geisio llofruddio dwy ddynes yn Y Rhyl
Mae dyn 37 oed wedi pledio’n euog i geisio llofruddio dwy ddynes wedi iddyn nhw gael eu trywanu yn Y Rhyl yn gynharach eleni.
Fe wnaeth Mathew Macmillan o Meredith Crescent yn y dref ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint ddydd Mercher.
Roedd wedi ei gyhuddo o ddau achos o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Meredith Crescent ar fore 3 Gorffennaf.
Fe gafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r tŷ ar ôl cael gwybod am “aflonyddwch” yno.
Daeth swyddogion o hyd i ddwy ddynes oedd wedi dioddef anafiadau difrifol wedi i Macmillan ymosod arnyn nhw gyda chyllell.
Roedd yn rhaid i’r ddwy ohonynt dderbyn triniaeth feddygol ar frys yn dilyn yr ymosodiad.
Roedd Macmillan wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn yn flaenorol, ond fe blediodd yn euog i'r cyhuddiadau yn y llys ddydd Mercher.
Bydd Macmillan yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 12 Ionawr 2026.