Trump yn dweud bod ganddo 'ddyletswydd' hawlio iawndal gan y BBC

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi dweud bod ganddo "ddyletswydd" i hawlio iawndal gan y BBC wedi i'w araith gael ei golygu ar raglen ddogfen Panorama.

Wrth siarad gyda Fox News dywedodd Arlywydd America bod ei araith wedi "ei thynnu yn ddarnau" a bod gwylwyr wedi cael eu "twyllo".

Dyma'r tro cyntaf iddo siarad am y mater ar ôl i'w gyfreithwyr anfon llythyr at y BBC yn bygwth camau cyfreithiol.

Mae cadeirydd y BBC, Samir Shah wedi ymddiheuro am "gamgymeriad barn" ddigwyddodd wrth olygu'r rhaglen.

Yn ystod y cyfweliad pan ofynnwyd iddo a oedd yn bwriadu bwrw ymlaen gyda'r achos cyfreithiol dywedodd Trump: "Wel am wn i, chi'n gwybod, pam ddim, achos fe wnaethon nhw dwyllo'r cyhoedd, ac maen nhw wedi cyfaddef hynny."

Ychwanegodd: "Fe wnaethon nhw newid fy araith 6ed o Ionawr, oedd yn araith hyfryd ac yn un ddigyffro iawn a gwneud iddi swnio yn radical. Ac fe wnaethon nhw ei newid. Mae'r hyn wnaethon nhw yn reit anhygoel." 

Fe wnaeth y BBC dderbyn llythyr gan gyfreithwyr Trump ddydd Sul. Mae'r llythyr yn mynnu bod y rhaglen ddogfen yn cael ei "thynnu lawr", ymddiheuriad a bod y BBC yn rhoi "iawndal derbyniol i'r Arlywydd Trump am y niwed sydd wedi ei wneud". Mae'r llythyr yn dweud bod angen i'r gorfforaeth ymateb erbyn 22:00 erbyn dydd Gwener.

Mae'r BBC wedi dweud y bydd yn ymateb mewn amser.

Yn y cyfamser mae newyddion y BBC wedi gweld e-bost mewnol gan Reform yn dweud na fyddan nhw yn parhau i gydweithredu gyda chwmni sydd yn gwneud rhaglen ddogfen am y blaid.

Roedd y rhaglen wedi ei chomisiynu gan y BBC gyda chwmni allanol, October Films. Roedd y cwmni yma yn ymwneud gyda'r rhaglen ddogfen Panorama am Trump.  

Mae'r e-bost mae'r BBC wedi gweld yn dweud bod y cwmni wedi ymddwyn yn "broffesiynol" ond yn cynghori aelodau i beidio ffilmio gyda'r cwmni nawr. 

Llun: Leon Neal/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.